Edgar Christian
Roedd Edgar Christian yn awdur ac anturiaethwr o Sais (6 Mehefin 1908 - Mehefin 1927). Roedd ganddo gysylltiadau ag ardal Pontlyfni ym mhlwyf Clynnog Fawr, gan i'w rieni brynu plasty bychan, Bron-dirion, yno ym 1919.
Edgar Christian | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1908 |
Bu farw | 1927 |
Galwedigaeth | anturiaethwr |
Aeth Christian ar anturiaeth gyda John Hoirnby a Harold Adlard i ogledd Canada, a cheisio byw ar lan yr Afon Thelon am flwyddyn, ond methodd â chanfod bwyd digonol a bu farw'r tri yn ystod 1927. Mae'r stori wedi ei hadrodd yn nyddiadur Christian, a gyhoeddwyd ym 1937 dan y teitl Unflinching.[1]