Pontllyfni

pentref yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Pontlyfni)

Mae Pontllyfni ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref bychan ar arfordir gogleddol Gwynedd, ar briffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli. Y ffordd gywir o sillafu'r enw, yn ôl y Rhestr o Enwau Lleoedd, (Gwasg y Brifysgol) yw Pontlyfni. Saif lle mae Afon Llyfni yn cyrraedd y môr, ychydig i'r gorllewin o Ben-y-groes a Llanllyfni. Ystyrir yr ardal yn rhan o Ddyffryn Nantlle. Mae'n gorwedd ym mhlwyf Clynnog Fawr.

Pontllyfni
Pont y Cim
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0467°N 4.3375°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Chwedlau a hynafiaethau

golygu

Dyma'r ardal a elwid yn "Brynaerau" ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Mae nifer o enwau lleoedd o gwmpas Pontllyfni â chysylltiadau â'r chwedl yma, er enghraifft ynys fechan 'Caer Arianrhod' ychydig i'r gogledd, rhwng Pontllyfni a Dinas Dinlle, a 'Thrwyn Maen Dylan' fymryn i'r de o'r pentref. Mae yno gae ar y lôn i Ben-y-Groes i'r dde o Bont-y-Cim ac ar y ffordd i Fryn Gwydion, sy'n perthyn i fferm 'Eithinog Wen', sydd iddo'r enw 'Llain yr Hwch'[3].

Mae'r pentref hefyd yn enwog yn llên-gwerin am chwedl Pont y Cim - pont bwa garrreg a adeiladwyd ym 1612 gan etifedd Glynllifon wedi i'w chariad gael ei foddi ar y rhyd a fodolai yma cyn codi'r bont yn ystod storm fawr pan oedd ar ei ffordd i'w gweld hi. Mae'r ysgrifiad hwn ar garreg ar dalcen y bont:

"Pont Y Cim, Catring Bwkle hath give 20 povends to mack this brighe. 1612".

Er bod elfen o ychwanegu at y stori ei mwyn ei gwella, mae sylfaen yr hanes yn fwy na chwedl gan fod llythyr gwreiddiol Catherine Bwclw at ynadon y sir yn cynnig talu am godi pont yn lle'r rhyd beryglus ar gael yn Archifdy Caernarfon.[4]

Carreg fellt Pontllyfni

golygu

Mae Pontllyfni yn enwog hefyd ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ym mis Ebrill 1931, pan syrthiodd maen awyr (neu 'garreg fellt') i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug wedi sŵn aruthrol dros ardal eang. Dyma beth mae'r cylchgrawn Y Gwyddonydd yn ei ddweud am y lle y glaniodd y garreg fellt:

"Disgynnodd bedwar cam o'r lle yr oedd gŵr y fferm, y diweddar John Lloyd Jones a'i fab John Aneuryn Jones, yn sefyll, ac fe suddodd droedfedd mewn daear galed. Pan dyn-nwyd ef allan o'r twll yr oedd yn gynnes ac o liw llwyd-las."[5]

Bu cryn helbul wedyn hefyd wrth i'r Amgueddfa Brydeinig geisio prynu'r garreg fellt gan y perchennog newydd, Mr John R Jones o ardal Llanrhystud - gwrthododd yntau'i werthu. Ym 1977 cyflwynodd y garreg i'r amgueddfa. Sonnir am y garreg fellt fel "The Pontllyfni meteorite" yn y papurau seryddol - ond dan y sillafiad amgen 'Pontlyfni' yn aml y'i rhestrir. Dim ond dwy garreg fellt sydd erioed wedi taro'r ddaear yng Nghymru i sicrwydd: y naill ym Mhontllyfni a'r llall tua bymtheg milltir i ffwrdd ochr bella crib Nantlle, ym Meddgelert ym 1949.[6]

Cysylltiadau â’r môr

golygu
  • Llong lo Pontllyfni

Dyma ysgrifennodd John Thorman, Cipar Glynllifon yn 1842 yn ei lyfr “memorandums” (fel y gwelwch, dydi ei lawysgrifen ddim yn eglur iawn ar adegau!):

2 vessel ashore from [ Malta ?], nigh pont llifni one [both wedi ei groesi allan] got off, With 'or [=her?] cargo, the [other?] got off by Discharging or [=her?] load of Coals[7]

Cymerir mai am y traeth o dan Bontllyfni mae Thorman yn sôn - a fu llongau yn gallu dod i fyny'r afon i Bontllyfni yr adeg honno? Meddai Robin Evans (arbenigwr morol): “Debyg nad Malta oedd y gair ond beth am dderbyn y cofnod fel ag y mae am eiliad – llong o Malta, wedi hwylio i Lerpwl yn cludo rhywbeth - yna wedi clywed am lwyth o lo o'r Parlwr Du - yn bwriadu mynd a fo I rywle ar y ffordd yn ol i Malta. Posibl? Un peth sy'n sicr - fyswn i byth yn gallu bod yn fiction writer!”

Tynnodd Ifor Williams fy sylw at y ffaith nad oedd y glo o angenrheidrwydd wedi dod o Malta (os Malta oedd y gair) a dyna’r cyfnod y codwyd odynnau calch ar yr arfordir er mwyn gwella cynnyrch amaethyddol. Bu yna odyn galch yng nghyffiniau Pontllyfni ar un adeg a byddai angen glo i danio’r odynnau. Mae ‘na odynnau calch bob rhyw filltir, neu lai, ar hyd yr arfordir yma, sef Pontllyfni, Aberdesach, Ty’n Coed (Clynnog), Traeth Mawr Clynnog, Gyrn Goch, Trefor – rhai bychan ar gyfer calch i’r tir a rhai mwy (neu e’lla bod y Stad yn codi adeiladau fferm ayyb yn yr ardal). Mae IES hefyd yn amheus iddynt gario glo o Malta. Meddai Idwal, "roedd yn arferiad i'r llongau ddod a glo i'r lan gyda'r llanw; defnyddid yr un egwyddor i gario tywod o'r sandbank ar y Fenai - byddent yn llwytho'r tywod i'r llong gyda berfa pan oedd y llanw allan, a'r llong yn gorwedd ar y sandbank, a dod a fo i'r lan ger Bont'raber i'w werthu". Meddai Brenda Jones, perthynas i Idwal, “tybed a ddaeth y ddwy long aground yn hytrach nag ashore...one got off with her cargo, the [other] got off by discharging her load of coal? Dyma Marian Elias yn dyfynnu’r hanesydd lleol Mair Eluned Pritchard: “Iard lo oedd Yr Iard, Aberdesach, a deuai pobl a'u troliau yno ar drai i lwytho glo. Yn Y Borth yr oedd yr odyn galch (ger Ty'n-coed) - ond lle sal i lanio ydoedd. Yn Y Wig, Pontllyfni, yr oedd odyn galch arall ar glwt glas yno. Ond erbyn hyn meddiannwyd y clwt glas a hyd yn oed lan-y-mor a chwalwyd olion yr odyn galch - bu brwydr barhaus rhwng y perchennog honedig, Cyngor Dwyfor a'r Cyngor Plwy am flynyddoedd yn y 1980au”.

Magwyd Hugh Evans, tad Mair Eluned, yn Swan ac roedd o'n cofio glo yn dod i “Rabar” (Aberdesach) hyd tua 1900-03. Erbyn hynny y trên oedd yn dod â glo i'r parthau hyn - i Lanwnda yr âi pobl Clynnog ac roedd trên ym Mhen-y-groes. Roedd y llongau a'r trenau yn cydoesi am gyfnod - sef hyd tua 1903. Roedd Sion Dafydd y Crydd yn byw yn Tŷ-rhos ger Coch-y-big a dyma ei sylw ar araith fudr y llongwyr: "'Roeddwn i lawr yn Rabar ac mi welish i fflama gleision yn dwad o'u cega nhw."

Pobl o Bontllyfni

golygu
  • Syr Ifor Williams: Bu'r bardd ac ysgolhaig yn byw yn y pentref am gyfnod.
  • Edgar Christian, anturiaethwr, yr oedd ei deulu'n byw ym Mron-dirion, Pontllyfni.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. https://books.google.co.uk/books?id=deXuAgAAQBAJ&pg=PA122&lpg=PA122&dq=pont+y+cim&source=bl&ots=gpbjujAEiQ&sig=RJCleA9L4O2xyz2mgDCze-gJgrc&hl=en&sa=X&ei=QQYMVeDTOYTP7Qa4n4DYBA&ved=0CDAQ6AEwBDgU#v=onepage&q=pont%20y%20cim&f=false
  4. Archifdy Caernarfon, XQS/1612.
  5. Y Gwyddonydd
  6. "Gwefan Bryn Jones". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-18. Cyrchwyd 2015-03-20.
  7. Cofnod o 1842 a gasglwyd i Dywyddiadur gwefan Llên Natur (Diolch i berchen y ddogfen wreiddiol, Idwal E Symonds, CBE am ganiatad i ddyfynnu ohoni.

Dolen allanol

golygu