Edward Compton Lloyd Hall

Bargyfreithiwr ar gylchdaith De Cymru oedd Edward Compton Lloyd Hall neu Lloyd Hall fel y'i gelwid yn aml; mae'n bosib mai ef oedd trefnydd ymgyrch Beca.[1] Deuai o blas y Cilgwyn ger Castellnewydd Emlyn. Amddiffynodd llawer o'r Rebecayddion a ddaliwyd ond nid oes dim tystiolaeth bendant mai ef oedd y gwir arweinydd.

Edward Compton Lloyd Hall
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfreithiwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaHelyntion Beca Edit this on Wikidata

Enw arall a gynigir yw'r cyfreithiwr Hugh Williams a oedd yn enedigol o Fachynlleth ac a oedd y gyfreithiwr yng Nghaerfyrddin.

Cyfeiriadau golygu

  1. 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; Gwasg Prifysgol Cymru, 1961.



     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.