Edward Dafydd (Edward Bach)
bardd o Sir Fynwy
Bardd Cymraeg a ganai ar destunau crefyddol yn bennaf o Sir Fynwy oedd Edward Dafydd, a elwir hefyd yn Edward Bach (fl. diwedd yr 16g a dechrau'r 17g).
Edward Dafydd | |
---|---|
Ganwyd | 16 g Sir Fynwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 17 g |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Edward Dafydd.
Ychydig a wyddom amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Yn ôl ei gyd-fardd Gwilym Puw, roedd yn frodor o Sir Fynwy. Fel Puw, roedd Edward Dafydd yn Reciwsant a glynodd wrth y ffydd Gatholig yn wyneb y Diwygiad Protestannaidd. Cafodd ei wysio gan y Gyfraith am fod yn Reciwsant yn 1607. Mewn rhai o'i gerddi galwodd yn agored ar y Catholigion i wrthryfela yn erbyn y Protestaniaid.
Carolau crefyddol ar y mesurau rhydd yw trwch ei gerddi. Ond cyfansoddodd gerddi caeth hefyd, er nad oedd yn feistr mawr ar y canu hwnnw.