Sir Fynwy

prif ardal yn ne-ddwyrain Cymru

Sir yn ne-ddwyrain Cymru yw Sir Fynwy (Saesneg: Monmouthshire) a grewyd wrth ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996. Roedd yr hen Sir Fynwy yn un o'r tair sir ar ddeg yng Nghymru a ddilëwyd gan adrefnu llywodraeth leol yn 1974. Rhwng 1974 a 1996 bu'r ardal yn rhan o sir Gwent. Trefynwy, ar Afon Mynwy, yw prif dref a chanolfan weinyddol y sir. Mae'r sir yn cynrychioli pen deheuol Cymru yn yr hen ddywediad "O Fôn i Fynwy" (h.y. 'Cymru benbaladr'). Llywodraethir y sir gan Gyngor Sir Fynwy, sydd â'i bencadlys yn nhref Brynbuga.

Sir Fynwy
ArwyddairUTRIQUE FIDELIS Edit this on Wikidata
Mathprif ardal Edit this on Wikidata
PrifddinasBrynbuga Edit this on Wikidata
Poblogaeth94,142 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd849.088 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Hafren, Afon Gwy Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Henffordd, Ardal Fforest y Ddena, Blaenau Gwent, De Swydd Gaerloyw, Casnewydd, Dinas Bryste, Swydd Gaerloyw, Powys, Torfaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.78°N 2.87°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW06000021 Edit this on Wikidata
GB-MON Edit this on Wikidata
Map

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar bu'r diriogaeth yn rhan o deyrnas Gwent. O 1069 ymlaen syrthiodd rhan helaeth yr ardal i ddwylo'r Normaniaid a daeth yn rhan o dir Y Mers, er bod rhannau o'r ucheldir yn dal yn nwylo arglwyddi Cymreig lleol.

Crëwyd yr hen Sir Fynwy yn y flwyddyn 1542 allan o'r hen arglwyddiaethau yn yr ardal. Roedd yn cynnwys Casnewydd ac yn ffinio â Swydd Gaerloyw i'r dwyrain, Swydd Henffordd i'r gogledd-ddwyrain, Sir Frycheiniog i'r gogledd a Morgannwg i'r gorllewin.

Daeth yn rhan o sir Gwent yn 1974. Ffurfwyd y sir newydd yn 1996.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

golygu

Rhennir y sir yn 33 o gymunedau:

Daearyddiaeth

golygu

Trefi a phrif bentrefi

golygu

Cestyll

golygu