Edward James
clerigwr a llenor
Llenor a chlerigwr o Gymru oedd Edward James (1569? –1610?). Roedd yn perthyn i gylch yr Esgob William Morgan.[1]
Edward James | |
---|---|
Ganwyd | 1569 Sir Forgannwg |
Bu farw | c. 1610 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd |
Bywgraffiad
golyguRoedd yn frodor o Forgannwg a addysgwyd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Fe'i urddwyd yn ficer yn 1595 a gwasnaethodd ym mhlwyfi Caerllion-ar-Wysg, Drenewydd Gelli-farch, Llangatwg Dyffryn Wysg a Llangatwg Feibion Afel. Yn 1606 cafodd ei ddyrchafu'n Ganghellor Eglwys Gadeiriol Llandaf. Bu farw yn 1610, yn ôl pob tebyg.[1]
Cyfieithodd Llyfr yr Homiliau i'r Gymraeg, gwaith a gyhoeddwyd yn 1606. Ymddengys iddo ymgymryd â'r gwaith ar gais yr Esgob William Morgan.[1] Cyhoeddwyd ail argraffiad o'r Homiliau gan John Roberts, Tremeirchion, yn 1817, a trydydd argraffiad yn 1847 gan Morris Williams (Nicander).[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Glanmor Williams, Grym Tafodau Tân (1984)