Eglwys Gadeiriol Llandaf
Eglwys gadeiriol Anglicanaidd yn ninas Caerdydd, Cymru, yw Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mae'n ganolfan i Esgobaeth Llandaf. Fe'i lleolir yn Llandaf, sydd wedi bod yn faesdref y ddinas er 1922. Sefydlwyd cysegr yno yn y flwyddyn 560 OC ac mae'r gadeirlan bresennol wedi'i chysegru i'r Saint: Pedr, Paul, Dyfrig, Teilo ac Euddogwy.
Math | cadeirlan Anglicanaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sant Pedr, yr Apostol Paul, Teilo, Dyfrig, Euddogwy |
Sefydlwyd | |
Nawddsant | Sant Pedr, yr Apostol Paul, Dyfrig, Teilo, Euddogwy |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llandaf |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 18 metr |
Cyfesurynnau | 51.4958°N 3.2181°W |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig |
Perchnogaeth | yr Eglwys yng Nghymru |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cysegrwyd i | Sant Pedr, yr Apostol Paul, Dyfrig, Teilo, Euddogwy |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llandaf |
Hanes
golyguApwyntiwyd Esgob cyntaf Llandaf ym 1108, yn fuan wedi i'r Normaniaid ymsefydlu ym Morgannwg. Dechreuwyd adeiladu'r gadeirlan o 1190 ymlaen, ac fe'i cwblhawyd ym 1290. Bu William de Braose yn esgob Llandaf o 1266 hyd 1287, ac ef a adeiladodd Capel y Forwyn Fair. Dinistriwyd plasdy'r esgob a gwnaed llawer o niwed i'r gadeirlan yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn y 1400au. Adnewyddwyd y gadeirlan wedyn gan Siasbar Tudur, a ychwanegodd y tŵr gogledd-ddwyreiniol, sydd yn drawiadol o debyg i Eglwys Sant Ioan yng Nghaerdydd. Gwnaed mwy o niwed i'r adeilad yn ystod y Rhyfel Cartref ac erbyn 1720 roedd y tŵr de-orllewinol yn adfail. Ym 1734 adeiladwyd cadeirlan newydd lai mewn arddull hollol wahanol: "y Deml Eidalaidd". Cynhaliwyd gwasanaethau yno am dros gan mlynedd cyn i'r adeilad hynny hefyd droi'n adfail.
Yn y 19g dechreuodd Esgob Llandaf breswylio yn ei esgobaeth am y tro cyntaf a gwnaed adnewyddiadau amrywiol i'r adeilad. Y newidiad mwyaf sylweddol oedd y tŵr de-orllewinol newydd gyda'i bigwrn yn yr arddull Gothig. Gwnaed llawer o'r gwaith yma gan y pensaer lleol John Prichard rhwng 1843 a 1869. Yn ogystal, comisiynwyd triptych gan yr arlunydd Fictorianaidd o fri Dante Gabriel Rossetti a ffenestri lliw gan Syr Edward Burne-Jones a Ford Madox Brown. Dinistriwyd llawer o'r cyfoeth gweledol yma ar noson 2 Ionawr 1941, pan gafodd y gadeirlan ei bomio gan awerynnau Almaenig. O'r holl eglwysi gadeiriol ym Mhrydain a niweidiwyd yn yr Ail Ryfel Byd, dim ond yr un yn Coventry a ddioddefodd yn waeth. Yn y cyfnod nesaf o adnewyddu codwyd cerflun anferth o Iesu Grist yn Ei Fawrhydi gan Jacob Epstein, efallai'r ychwanegiad mwyaf dadleuol i'r gadeirlan yn ei hanes.
Gweler hefyd
golygu
Oriel
golygu-
Beddau y tu fewn i'r eglwys
-
Y cabidyldy
-
Capel y Forwyn Fair
-
Iesu Grist yn Ei Fawrhydi gan Jacob Epstein
-
Y bwa urddasol