Edward Jones (esgob)
Clerigwr Anglicanaidd o Gymru yn oedd Edward Jones (Gorffennaf 1641 – 10 Mai 1703) a oedd yn Esgob Llanelwy o 1692 i 1703.
Edward Jones | |
---|---|
Ganwyd | Gorffennaf 1641 |
Bu farw | 10 Mai 1703 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Llanelwy |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd yn Llwyn Rhirid, Ffordun, yn ardal Maldwyn, yn fab i Richard a Sarah Jones. Mynychodd Ysgol Westminster. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt o 1661 i 1664, ac etholwyd ef yn gymrawd yno yn 1667.[1]
Iwerddon
golyguSymudodd i Kilkenny yn Iwerddon ac yno bu'n athro ar ysgol, a Jonathan Swift oedd un o'i ddisgyblion. Penodwyd yn ganon yn Ossory, yn ddeon Lismore yn 1678, ac yn Esgob Cloyne yn 1683.[1]
Esgob Llanelwy
golyguYn 1692 cafodd Edward Jones ei drosglwyddo o Esgobaeth Cloyne i Esgobaeth Llanelwy, yn olynydd i William Lloyd. Esgob llwgr ydoedd a werthai swyddi eglwysig. Achwynodd ei glerigwyr arno wrth Archesgob Caergaint yn 1697, a fe'i gwysiwyd o flaen llys yr archesgob yn 1698. Llwyddodd ei gefnogwyr i ohirio'r prawf hyd 1700, ac yn 1701 fe'i cafwyd yn euog o simoniaeth a'i amddifadu o'i swydd am chwe mis.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Jones, Edward (1641 - 1703)", Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.