Jonathan Swift
Awdur o'r Iwerddon oedd Jonathan Swift (30 Tachwedd 1667 – 19 Hydref 1745), a aned yn Nulyn.
Jonathan Swift | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Isaac Bickerstaff, Lemuel Gulliver, M. B. Drapier, Simon Wagstaff ![]() |
Ganwyd | 30 Tachwedd 1667 ![]() Dulyn ![]() |
Bu farw | 19 Hydref 1745 ![]() Dulyn ![]() |
Man preswyl | Whitehaven ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Iwerddon ![]() |
Addysg | Doethur mewn Diwinyddiaeth ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, dychanwr, athronydd, amddiffynnwr hawliau dynol, pamffledwr, offeiriad Anglicanaidd, llenor, awdur ffuglen wyddonol, awdur ysgrifau, gohebydd gyda'i farn annibynnol, awdur plant, rhyddieithwr, person cyhoeddus, offeiriad ![]() |
Adnabyddus am | Gulliver's Travels, A Modest Proposal, A Tale of a Tub ![]() |
Arddull | dychan, traethawd, Pritça, pamffled ![]() |
Plaid Wleidyddol | Tori ![]() |
Tad | Jonathan Swift ![]() |
Mam | Abigail Erick ![]() |
Partner | Esther Vanhomrigh ![]() |
llofnod | |
![]() |
Er iddo gael ei eni yn Nulyn ac iddo rannu ei amser rhwng y ddinas honno a Llundain, roedd rhieni Swift yn Saeson o Swydd Efrog ac fe'i hawlir weithiau fel awdur gan y genedl honno.
Cafodd Swift ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Yn sgîl yr adwaith yn Iwerddon i Chwyldro 1688 aeth i Lundain lle daeth yn ysgrifennydd i Sir William Temple. Yn nghartref Temple cyfarfu Swift â "Stella" (Hester Johnson). Yno hefyd yr ysgrifennodd ei ddychan mwyaf gwreiddiol, A Tale of a Tub (1704).
Fe'i ordeiniwyd yn 1694 a rhannodd ei amser rhwng gofalu am ei ystad yn Iwerddon a mynychu siopa coffi a chylchoedd llenyddol Llundain. Yn 1713 cafodd ei apwyntio'n ddeon eglwys St Padrig, Dulyn. Yn 1726 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf Gulliver's Travels, dychan ar wleidyddiaeth a syniadaeth ei ddydd yn rhith mordaith ffantasïol i wledydd pell neu ddychmygol. Bu farw yn 1745.
Llyfryddiaeth
golygu- A Tale of a Tub (1704)
- Battle of the Books
- Journal to Stella (1710)
- Gulliver's Travels (1726)