Edward de Bono
Meddyg, seicolegydd, awdur, dyfeisiwr ac athronydd Maltaidd oedd Edward Charles Francis Publius de Bono (19 Mai 1933 – 9 Mehefin 2021)[1][2]. Cychwynnodd e'r term "meddwl ochrol". Ysgrifennodd de Bono Six Thinking Hats (1985), ac roedd yn gefnogwr o ddysgu meddwl fel pwnc mewn ysgolion.[3]
Edward de Bono | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mai 1933 Malta |
Bu farw | 9 Mehefin 2021 Malta |
Dinasyddiaeth | Malta |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, seicolegydd, athronydd, academydd |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Ysgoloriaethau Rhodes, doctor honoris causa |
Gwefan | https://www.debono.com |
Cafodd Edward de Bono ei eni ym Malta.[4] Cafodd ei addysg yng Ngholeg St Edward, Malta, yna enillodd radd feddygol o Brifysgol Malta. Aeth ymlaen fel Ysgolor Rhodes i Eglwys Crist, Rhydychen, lle enillodd MA mewn seicoleg a ffisioleg. Cynrychiolodd Rydychen mewn polo a gosod dau record canŵio. Cafodd gradd PhD mewn meddygaeth o Goleg y Drindod, Caergrawnt.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Birthdays today" (yn Saesneg). The Telegraph. 19 Mai 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-11. Cyrchwyd 16 Mai 2014.
- ↑ Kurt Sansone. "Father of lateral thinking, Edward de Bono, has died". Malta Today (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Mehefin 2021.
- ↑ "Guest post: When anyone can be a money issuer". FT Alphaville (yn Saesneg). 28 Mai 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2014.
- ↑ "Edward de Bono obituary". Times Register (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Mehefin 2021.
- ↑ Dundee, University of. "Honorary Degrees : Academic & Corporate Governance". Prifysgol Dundee (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-25. Cyrchwyd 2021-06-10.