Gwaith y meddyg ydy gofalu a gwella ei gleifion drwy ddeiagnosio problemau'r claf ac yn trin yr anaf neu'r afiechyd. I'r perwyl hwn, mae'r meddyg yn astudio meddygaeth sy'n cynnwys anatomi, ffisioleg, afiechydon a'r driniaeth angenrheidiol.

"Y Meddyg" gan Luke Fildes
"Y Meddyg" gan Luke Fildes

Benthyciad o'r Lladin "medicus" sydd yma yn ôl llawer, er bod rhai yn awgrymu mai o'r gair "medd" (a holl briodweddau meddygol mêl y daw'r gair. Fe'i sgwennwyd gyntaf yn y Gymraeg yn y 13g yn Llyfr Du Caerfyrddin. "Ffisigwr" yw'r gair arall amdano: gair Lladin am "natur" neu "naturiol".

Mae dau goleg yng Nghymru'n cynnig cyrsiau i fod yn feddyg: Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Maent yn para am oddeutu 6 mlynedd.

Gweler hefyd golygu