Oes Edward

(Ailgyfeiriad o Edwardaidd)

Yn hanes y Deyrnas Unedig, cyfeirir at gyfnod teyrnasiad y brenin Edward VII, sef o 1901 hyd 1910, yn syml fel Oes Edward' neu'r Oes Edwardaidd. Defnyddir y term"Edwardaidd" yn aml i gyfeirio at y 1900au yng ngwledydd Prydain yn gyffredinol neu, yn fwy neilltuol, i gyfeirio at arddull pensaernïol a chelfyddydau'r cyfnod. Fe'i defnyddir hefyd wrth gyfeirio at ddodrefn, celfi, dillad a.y.y.b. o'r 1910au.

Oes Edward
Enghraifft o'r canlynolcyfnod o hanes, arddull Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1901 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1910 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganOes Fictoria Edit this on Wikidata
Olynwyd gannew Elizabethan era Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Enghraifft dda o bensaernïaeth Edwardaidd: Pier y Garth, Bangor, o Fiwmaris

Roedd yn gyfnod pan welwyd yr Ymerodraeth Brydeinig ar ei hanterth. Roedd yn gyfnod o sefydlogrwydd a heddwch, ar y cyfan, sy'n gorwedd rhwng diwedd Rhyfel De Affrica (y rhyfel yn erbyn y Boers) ac erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf. Dilynwyd y rhyfel byd gan gyfnod hir o ansicrwydd economaidd a gwleidyddol yn y 1920au a'r 1930au, a daeth pobl i ddechrau edrych yn ôl ar y 1900au fel rhyw fath o Oes Aur.

Yn 1901 bu farw'r frenhines Victoria ar ôl 63 o flynyddoedd ar yr orsedd, a dynododd hyn ddiwedd cyfnod Victoria, wrth iddi gael ei holynu gan Edward VII. Roedd Edward wrth ei fodd gydag hwyl, ac felly roedd yn boblogaidd iawn. Ymhlith ei hoff chwaraeon oedd rasio, hwylio a saethu, ac roedd ganddo gylch cymdeithasol enfawr ym Mhrydain ac ar y cyfandir.

Baner Y Deyrnas UnedigEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.