Eglwys Apostolaidd Armenia
Eglwys Gristnogol yw Eglwys Apostolaidd Armenia (Armeneg: Հայ Առաքելական Եկեղեցի, Hay Arakelagan Yegeghetzi), un o'r cymunedau Cristnogol hynaf yn y byd. Cyfieithwyd y Beibl i'r Armeneg gyntaf gan Saint Mesrob (361-440), ac mae 48 llyfr yn fersiwn yr Eglwys o'r Hen Destament. Fe wahanodd o Eglwys y Gorllewin ym 554, wedi anghytuno â defodau Cyngor Chalcedon. Catholicos yw arweinydd yr Eglwys, a Karekin II yw'r Catholicos presennol.