Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin
Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a gellir ei ddileu, o ganlyniad. Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. |
Sefydlwyd Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin yn ffurfiol ar 22 Mawrth 1989. Cyn hynny perthynai'r aelodau i Carmarthen Evangelical Church, eglwys Saesneg annibynnol yng Nghaerfyrddin, ac mae cysylltiad cryf ac agos wedi parhau rhwng y ddwy eglwys. Am ugain mlynedd cyntaf ei hanes bu'r eglwys yn cyfarfod mewn ystafell yn yr un adeilad â'i chwaer eglwys, sef y 'Presbi', adeilad yr hen Goleg Presbyteraidd ar y Rhodfa, neu'r 'Parêd'. Gweinidog cyntaf yr eglwys oedd y Parch Dafydd Protheroe Morris. Olynwyd Dafydd Morris gan y Parch Geraint Lloyd, a fu'n weinidog rhwng 1999 a 2006.
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.855253°N 4.303541°W |
Prynu'r adeilad
golyguYn 2008 prynwyd adeilad y 'Moose Hall' yn Heol yr Hen Orsaf ar lan afon Tywi. Ar ôl ei atgyweirio dechreuwyd cynnal oedfaon yno ym mis Gorffennaf 2009.
Galw efengylydd
golyguDdechrau 2017 derbyniodd y Parchg Roger Thomas alwad i ymuno â'r eglwys fel efengylydd amser llawn, gan ddechrau ar ei waith ar 1 Mawrth.
Swyddogion a chyfarfodydd
golyguYn 2018 henuriaid yr eglwys oedd Parry Davies a Robert Rhys. Mae'r eglwys yn cyfarfod ddwywaith ar y Sul ac ar nos Fercher.