Eglwys Sant Berres, Llanferres

eglwys yn Llanferres, Sir Ddinbych

Saif Eglwys Sant Berres, ym mhentref bychan Llanferres, Sir Ddinbych, Cymru, ar ymyl yr A494 rhwng Yr Wyddgrug a Rhuthun. Mae yn neoniaeth Yr Wyddgrug, ac yn perthyn i'r Eglwys yng Nghymru.[1] Cofrestrwyd yr eglwys gan Cadw fel adeilad graddedig - Gradd II.[2]

Eglwys Sant Berres, Llanferres
Eglwys Sant Berres, Llanferres, o'r Gog-Orll.
LleoliadLlanferres, Sir Ddinbych
GwladCymru
CristnogaethAnglicanaidd
Hanes
Cysegrwyd iSant Berres (Saesneg: St. Brice)
Pensaerniaeth
Dynodiad (etifeddiaeth)Gradd II
Dynodiad26 Ebrill 1990
Pensaer/iJoseph Turner (?), Thomas Jones, John Douglas
PensaerniaethEglwys
Math o bensaerniaethGothic
Manylion
DefnyddCalchfaen a tho llechi
Administration
PlwyfGwernaffield a Llanferres
DeoniaethMold
ArchddeoniaethWrecsam
EsgobaethEsgobaeth Llanelwy
Rhanbarth eglwysigYr Eglwys yng Nghymru
Clergy
CuradRev J. Stephens

Crybwyllir yr eglwys yn gyntaf yn 1291 ond mae'r rhan fwyaf o'r eglwys bresennol yn perthyn i'r Oesoedd Canol. Ceir carreg sy'n nodi i waith adfer ddigwydd yn 1650 a gwyddom yr atyweiriwyd yr eglwys ymhellach yn 1774. Ar y fedyddfaen ceir y dyddiad 1684.

Cyfeiriadau

golygu