Eglwys Sant Botolph, Boston
eglwys yn Boston, Swydd Lincoln
Un o'r eglwysi plwyf mwyaf yn Lloegr yw Eglwys Sant Botolph, Boston, sydd wedi'i lleoli yn nhref Boston, Swydd Lincoln. Mae ganddi un o'r tyrau canoloesol talaf yn y wlad – tua 272 troedfedd (83 m) o uchder. Gellir ei weld am filltiroedd o gwmpas; roedd ei amlygrwydd yn bwysicach gan y Ffendiroedd – y cefn gwlad gwastad o'i gwmpas. Ar ddiwrnod clir, gellir ei weld o Ddwyrain Anglia ar ochr arall Y Wash. Fe'i defnyddiwyd am ganrifoedd gan forwyr fel tirnod. Mae llysenw y tŵr, "The Stump" neu "Boston Stump", yn aml yn cael ei ddefnyddio fel cyfeiriad at adeilad yr eglwys gyfan neu at gymuned y plwyf.
Math | eglwys blwyf Anglicanaidd |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Boston, Bwrdeistref Boston |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.9786°N 0.0258°W |
Cod OS | TF3269244184 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cysegrwyd i | Botolph |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Lincoln |
Dechreuwyd adeiladu'r eglwys bresennol ym 1309, a'r tŵr ym 1450.