Eglwys Sant Chad, Holt

eglwys yn Holt, sir Wrecsam

Eglwys ac adeilad rhestredig Gradd I yn Holt ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Eglwys Sant Chad.[1] Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy.

Eglwys Sant Chad
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHolt Edit this on Wikidata
SirHolt Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr15.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0809°N 2.87913°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Seisnig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iChad Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Llanelwy Edit this on Wikidata

Mae'n debyg bod yr eglwys yn dyddio i'r 1280au pan setlwyd tref Holt gan y teulu Warren. Fodd bynnag, ceir cyfeiriad cyntaf at yr eglwys mewn dogfen o 1379. Ailfodelwyd ac estynnwyd yr eglwys ar ddiwedd y 15g o dan nawdd Syr William Stanley. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr cafodd ei ddifrodi pan oedd lluoedd Seneddol yn byw ynddo; mae marciau bwled i'w gweld o hyd yn y waliau a'r pileri ym mhen gorllewinol yr eglwys. Yn 1732 adnewyddwyd yr eglwys; roedd y gwaith hwn yn cynnwys dinistrio lofft y grog a'r sgriniau. Bu adferiad mawr ym 1871–1873.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "St Chad's Church, Holt", Gwefan Coflein; adalwyd 6 Mawrth 2020
  2. "Wrexham Churches Survey: Church of St Chad, Holt" Archifwyd 2020-08-12 yn y Peiriant Wayback., Gwefan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys; adalwyd 6 Mawrth 2020