Eglwys y Santes Fair, Cilcain
Mae Eglwys y Santes Fair (neu weithiau: Eglwys Fair) yn adeilad rhestredig Gradd I sydd wedi'i lleoli yng nghanol pentref Cilcain ym mhlwyf Cilcain, Nannerch a Rhydymwyn, Sir y Fflint, Cymru (Cyfeirnod grid: SJ17646516).[1][2] Fel y rhan fwyaf o eglwysi'r ardal, ceir dwy siambr ac mae ei tho Canoloesol a'r gerfiadau pren o angylion a chreaduriaid yn nodedig.
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cilcain |
Sir | Cilcain |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 223.6 metr |
Cyfesurynnau | 53.1772°N 3.23377°W |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig Seisnig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llanelwy |
Ceir y cofnod cyntaf am yr eglwys hon yn 1291 yn Llyfr Trethi Lincoln. Ychwanegwyd y tŵr yn y 15g. Llosgwyd rhan o'r to yn 1532 a chodwyd to newydd yn 1746 a chredir ar lafar i'r to hwn gael ei gludo o Abaty Dinas Basing, er nad oes tystiolaeth o hynny. Mae'n bosibl i'r galeri gorllewinol hefyd gael ei godi tua'r adeg hon. Ailadeiladwyd a thrwsiwyd rhannau o'r eglwys hefyd rhwng 1845-46 dan oruchwyliaeth Ambrose Poynter.[3][4]
-
Lleoliad yn y pentref
-
Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg, dyddiedig 1809
-
Beddrod o'r 14g
-
Porth yr eglwys, a godwyd cyn 1720
-
Y tu allan, gyda ffenest liw ar y chwith o'r 17g
-
Tuag at yr allor
Y to a'r nenfwd
golyguEglwys digon tebyg i hon (o ran ei tho) yw Eglwys Llanidloes a thorwyd coed derw ei thrawstiau yn haf 1538. Nid yw trawstiau Eglwys y Plwyf, Cilcain, hyd yma (2015), wedi'u dyddio. Mae Cadw'n dyddio'r trawstiau i tua'r 1530au - yn seiliedig ar ddarn o efydd gyda dyddiad llosgi'r eglwys arno, ond sydd bellach ar goll. Yn sicr, roedd y to o drawstiau derw yn ei le erbyn 1546 pan osodwyd ffenestr liw'r gangell yn ei lle. Mae'n debyg fod y to yn un o werth cendlaethol, oherwydd ei gyflwr da a'i oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cilcain, Esgobaeth Llanelwy, http://www.churchinwales.org.uk/structure/places/parishes/?id=1732, adalwyd 9 Chwefror 2014
- ↑ Church of St Mary, Cilcain, Cadw, http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=295, adalwyd 9 Chwefror 2014
- ↑ Church of St Mary, Cilcain, Ymddiriedolaeth Archaeoleg Clwyd-Powys, http://www.cpat.demon.co.uk/projects/longer/churches/flint/16747.htm, adalwyd 23 Mehefin 2009
- ↑ www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 2015