Cilcain

pentref a chymuned yn Sir y Fflint

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Cilcain[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r gorllewin o dref Yr Wyddgrug, ac ychydig i'r dwyrain o gopa Moel Llys-y-Coed, gyda Moel Famau i'r de-orllewin. Ceir yno eglwys, siop, tafarn, swyddfa'r post a neuadd y pentref.

Cilcain
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1772°N 3.2342°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000184 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ176651 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Cofnodir yr eglwys gyntaf yn 1291. Ar un adeg roedd plwyf Cilcain yn cynnwys Cefn, Llan (neu Tre'r Llan), Llystynhunydd (neu Glust), Llys y Coed, Maes y Groes, Mechlas (neu Dolfechlas) a Trellyniau; erbyn hyn mae gryn dipyn yn llai.

Codwyd ysgol trwy danysgrifiad cyhoeddus yn y pentref yn 1799. Mae adeilad yr ysgol yn dŷ preifat erbyn heddiw. Cynhelir Gŵyl Cilcain yn flynyddol i hybu'r celfyddydau a diwylliant.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Yr Hen Ysgol (1799), Cilcain.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cilcain (pob oed) (1,378)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cilcain) (237)
  
17.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cilcain) (626)
  
45.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cilcain) (195)
  
34.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.