Eiffteg
Eiffteg oedd yr iaith siaredig yn yr Hen Aifft. Roedd yn iaith Afro-Asiatig, yn perthyn i'r ieithoedd Berber a'r ieithoedd Semitaidd. Ceir cofnodion ysgrifenedig mewn Eiffteg yn dyddio o tua 3200 CC, un o'r cofnodion hynaf mewn unrhyw iaith.
Parhaodd yr iaith hyd y 5g OC fel Eiffteg Demotig, ac hyd ddiwedd y 17g fel Copteg. Erbyn hyn. Arabeg yw iaith genedlaethol yr Aifft, ond defnyddir Copteg yn litwrgi yr Eglwys Goptaidd, ac efallai fod dyrnaid o siaradwyr iaith gyntaf yn parhau.