Einion II, Esgob Llanelwy
esgob Llanelwy
Clerigwr Cymreig oedd Einion II (Lladin: Anian II) (bu farw 1293), a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy o 1268 hyd ei farwolaeth yn 1293. Cyfeirir ato hefyd fel Einion ab Ynyr neu Einion o Nannau (Anian o Nannau).[1]
Einion II, Esgob Llanelwy | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 g ![]() |
Bu farw | 1293, 5 Chwefror 1293 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | Esgob Llanelwy ![]() |
Swydd | esgob Catholig, esgob esgobaethol ![]() |
HanesGolygu
Bu'n esgob mewn cyfnod helbulus. Llosgwyd Eglwys Gadeiriol Llanelwy gan y Saeson yn 1292 yn ystod Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru.[1] Ailadeiladwyd yr eglwys gan Einion ar ôl hynny.
CofebGolygu
Ceir delw o Einion II wedi'i cherfio o garreg yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae'n ddelw gonfensiynol sy'n dangos Einion mewn gwisg laes hir yn gorwedd ar ei gefn. Saif y ddelw yn erbyn mur deheuol ystlys deheuol yr eglwys.