Eglwys Gadeiriol Llanelwy

cadeirlan yn Llanelwy, Sir Ddinbych

Eglwys gadeiriol Anglicanaidd yn nhref Llanelwy, Sir Ddinbych, Cymru, yw Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae'n gadeirlan Esgobaeth Llanelwy a sedd Esgobion Llanelwy.

Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Mathcadeirlan Anglicanaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1143 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanelwy Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr36.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2571°N 3.44206°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iAsaph, Cyndeyrn Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata
EsgobaethEsgobaeth Llanelwy Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Mae ei hanes cyn cyfnod y Normaniaid yng Nghymru yn dywyll. Codwyd yr eglwys gadeiriol ar ei safle bresennol tua'r flwyddyn 1100. Yn 1282 cafodd ei llosgi i lawr gan filwyr Edward I o Loegr yn ystod ei gyrch olaf ar Wynedd. Dechreuwyd ar y gwaith o godi adeilad newydd yn fuan wedyn ond ni chwbleuwyd y gwaith tan 1381. Dioddefodd yr adeilad newydd yn ystod rhyfel annibyniaeth Owain Glyn Dŵr pan losgwyd y cangelldy yn 1402; arosodd y rhan honno o'r adeilad heb do hyd tua 1480. Cafodd ei difrodi gan dân unwaith eto gan wŷr Oliver Cromwell pan gafodd y cangelldy ei losgi'n ulw. Yn 1869 adferwyd yr eglwys gadeiriol gan y pensaer George Gilbert Scott, ond effeithiwyd ar yr adeilad gwreiddiol yn sylweddol.

 
Egwlys Gadeiriol Llanelwy o'r awyr
 
Hen engrafiad yn dangos Eglwys Gadeiriol Llanelwy (canol) cyn i waith Gilbert Scott ei newid

Heddiw mae muriau mewnol yr adeilad yn ddigon plaen a diaddurn, diolch yn bennaf i waith Scott. Yn yr eil ddeheuol ceir delw cerfiedig yr esgob Anian, a fu'n esgob Llanelwy yn 1282 pan losgwyd y gadeirlan gan y Saeson. Yn ei ymyl ceir maen cerfiedig hynafol arall, a adnabyddir fel "Maen y Milgi" am ei fod yn dangos milgi yn hela sgawrnog; dywedir ei fod yn dod o feddrod tywysoges o'r enw Efa (aelod o deulu brenhinol Powys efallai).


Cofeb y Cyfieithwyr ac amgueddfa golygu

O flaen y gadeirlan ceir cofeb i gyfieithwyr y Beibl i'r Gymraeg, gan gynnwys William Salesbury, cyfieithydd cyntaf y Testament Newydd cyfan i'r Gymraeg, a'r Esgob William Morgan, a benodwyd yn esgob Llanelwy yn 1601.

Ceir amgueddfa yn y gadeirlan gyda hen Feiblau a darnau o gerflunwaith.

Cyfeiriadau golygu