Eirafyrddio

chwaraeon sy'n ymwneud â disgyn lawr llethr wedi ei orchuddio â eira
(Ailgyfeiriad o Eirfyrddio)

Chwaraeon sy'n ymwneud â disgyn lawr llethr wedi ei orchuddio â eira ar eirafwrdd yw eirafyrddio. Caiff yr eirafwrdd ei glymu i draed yr eirafyrddiwr gan ddefnyddio esgidiau arbennig mewn mowntin hyblyg. Ysbrydolwyd datblygaeth eirafyrddio gan sglefrfyrddio, syrffio a sgio. Datblygwyd yn yr Unol Daleithiau yn ystod yr 1960au a'r 1970au gan y chwaraewr eithafol a'r eirafyrddiwr Francis Wilkinson. Daeth yn Chwaraeon Olympaidd y Gaeaf ym 1998. Cynhyrchwyd yr eirfyrddau cyntaf gan y cwmni Burton Snowboards.

Eirafyrddio
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon gaeaf, chwaraeon byrddau, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Offer a gwisg angenrheidiol golygu

  • Bwrdd - mae gan flaen y bwrdd drwyn llydan. Mae hyn yn ddefnyddiol er mwyn codi trwy'r eira.
  • Rhwymynnau - pwrpas hyn yw i gadw traed y eirfyrddwr ar y bwrdd.
  • Esgidiau/boots
  • Trowsus eirfyrddio - mae ganddynt sel ar y gwaelod i gadw'r eira mas. Mae gan rhai trowsusau dyllau ar y ochor i adael aer i mewn er mwyn oeri coesau dwym.
  • Siaced - yn aml mae ganddynt wddf uchel i'ch cadw'n dwym a phocedi i storio tocynnau lift, mapiau, gogls ac ati.
  • Gogls/sbectol haul - mae'n lleihau pa mor llachar yw'r eira ac yn stopio eira rhag mynd yn eich llygaid.
  • Eli haul - i'ch amddiffyn rhag yr haul.
  • Helmed - i amddiffyn y pen.
  • Menig - i gadw dwylo yn gynnes.

Eirfyrddwyr enwog golygu

Mae llawer o eirfyrddwyr enwog yn y byd. Dyma rai:

Eirafyrddio (slalom)
  Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.