Eirin Peryglus
grŵp synthpop Cymraeg
Grŵp synthpop Cymraeg oedd Eirin Peryglus.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 1987 |
Genre | synthpop |
Fiona Owen oedd prif gantores y band a hithau yn wraig i Gorwel Owen, cynhyrchydd a pherchennog stiwdio recordio a label Ofn.[1] Fe wnaeth y band recordio sesiynau ar gyfer BBC Radio Cymru ac ymddangos sawl gwaith ar rhaglenni teledu cerddoriaeth S4C. Chwaraewyd recordiau'r band ar raglen John Peel, BBC Radio 1 hefyd.[2] Mae'r band wedi mwynhau sylw o'r newydd gan gynnwys ar raglen Recordiau Rhys Mwyn ar Radio Cymru ers rhyddhau eu catalog o ganeuon ar lwyfannau digidol yn 2021.[3]
Aelodau
golygu- Fiona Owen - llais
- Alun Davies - gitâr/llais
- Robin Griffiths - allweddellau/llais
Disgyddiaeth
golyguTeitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Blwyddyn |
---|---|---|---|---|
"Bronson / Y Dyn Newydd" | Sengl 7" | Recordiau Ofn | OFN 03 | 1987 |
"Dafydd Yn Gwneud Teisen / Merthyr " | Sengl 7" | Recordiau Ofn | OFN 06 | 1988 |
Y Llosg | EP 12" feinyl | Recordiau Ofn | OFN 07B | 1989 |
Trosgynnol | EP caset | Recordiau Ofn | OFN 010C | 1990 |
Noeth | Albwm CD | Recordiau Ofn | OFN 014CD | 1992 |
Lleuad Mehefin | EP CD | Recordiau Ofn | OFN 015CD | 1995 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfweliad Gorwel Owen. ytwll.com (3 Mawrth 2010). Adalwyd ar 3 Chwefror 2017.
- ↑ John Peel a'r Sin Roc Gymraeg , BBC Cymru Fyw, 25 Hydref 2014. Cyrchwyd ar 3 Chwefror 2017.
- ↑ Rhyddhau catalog Eirin Peryglus yn ddigidol am y tro cyntaf , Y Selar, 24 Tachwedd 2021. Cyrchwyd ar 12 Ionawr 2022.
Dolenni allanol
golygu- Tudalen Bandcamp Eirin Peryglus: https://eirinperyglus.bandcamp.com/
- "Anial Dir" ar Fideo 9
- "Merthyr" yn fyw ar Stîd, 1988