Gorwel Owen

cyfansoddwr a aned yn 1959

Cynhyrchydd a cherddor o Gymro yw Gorwel Owen (ganwyd 1959). Mae wedi gweithio gyda Datblygu, Gorky's Zygotic Mynci, Super Furry Animals a Hwyl Nofio. Mae hefyd yn aelod o Pondman gyda'i wraig, y bardd Fiona Owen. Rhyddhawyd eu hail albwm yn 2008 o dan eu henw eu hunain, drwy eu label Yamoosh!.[1]

Gorwel Owen
Ganwyd1959 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rhwng.com Edit this on Wikidata

Yn yr 1980au a'r 1990au cynhyrchodd sesiynau recordio ar gyfer nifer fawr o fandiau Cymreig yn ei stiwdio cartref, Stiwdio Ofn yn Rhosneigr, Ynys Môn. Bu hefyd yn cyhoeddi recordiau ar label Ofn a roedd yn aelod o Plant Bach Ofnus.

Disgyddiaeth golygu

  • Super Furry Animals - Fuzzy Logic, 1996 - cyd-cynhyrchydd
  • Gorky's Zygotic Mynci - Barafundle, 1997 - cyd-cynhyrchydd
  • Super Furry Animals - Radiator,1997 - cyd-gynhyrchydd
  • Gorky's Zygotic Mynci - Gorky 5, 1998 - cyd-cynhyrchydd
  • Gorky's Zygotic Mynci -The Blue Trees, 1997 - cyd-cynhyrchydd
  • Gorky's Zygotic Mynci - Spanish Dance Troupe, 1999 - cyd-cynhyrchydd
  • Super Furry Animals - Mwng, 2000 - cyd-gynhyrchydd
  • Gorky's Zygotic Mynci - ‎How I Long to Feel That Summer in My Heart, 2001 - cyd-gynhyrchydd
  • Pondman - In Between, 2002 - cyd-awdur a pherfformiwr
  • Euros Childs - Chops, 2006 - cyd-cynhyrchydd
  • Hwyl Nofio - Hounded by Fury, yn 2006 - perfformiwr
  • Fiona a Gorwel Owen - Spring Always Comes, yn 2008 - cyd-awdur a pherfformiwr
  • Gruff Rhys - Hotel Shampoo, 2010 - cyd-gynhyrchydd

Cyfeiriadau golygu

  1. Albums page on official website, retrieved 23 April 2014.

Dolenni allanol golygu