Eirwyn George

bardd a llenor Cymraeg

Bardd, llenor ac awdur yw Eirwyn George (ganwyd 1936). Cafodd ei fagu ar ffermdy Tyrhyg Isaf yn ardal Twffton yng Ngogledd Sir Benfro i’r gogledd o’r Landsker Line (sef y ffin ieithyddol sy'n rhannu'r sir). Mae’n Brifardd y Goron; mae wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith (1982 ac 1993). Mae'n byw ym mhentref Maenclochog gyda’i wraig, Maureen.[1]

Eirwyn George
Ganwyd1936 Edit this on Wikidata
Tufton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
'Fel Hyn y Bu' Hunangofiant Eirwyn George
Dwy o Goronau Eirwyn George (Eisteddfod Genedlaethol '82 a '93)

Bywyd Cynnar

golygu

Un o blant y Preselau yng Ngogledd Sir Benfro yw Eirwyn George. Unig blentyn Thomas Elwyn ac Emily Louisa. Ganed ef yn 1936. Ffarm Tyrhyg Isaf yn ardal Twffton oedd cartre'r teulu. Ffarmwr oedd y tad, dyn diwylliedig, oedd yn cael blas ar lunio penillion i ddathlu achlysuron arbennig yn yr ardal. Cystadlu hefyd yn eisteddfodau'r cylch. Roedd Henry George, tad ei dad, yn cyfansoddi penillion crefyddol hefyd o bryd i'w gilydd.

Pan oedd Eirwyn yn naw oed fe symudodd y teulu i ffarm Castellhenri. Ffarm doreithiog rhwng pentrefi Maenclochog a Chas-mael. Erbyn hyn roedd Eirwyn yn mynychu Ysgol Garnochor. Ysgol fechan ar y ffordd o Twffton i Faenclochog  sydd bellach wedi cau ers blynyddoedd.

Bywyd Personol

golygu

Priododd Eirwyn â Maureen Lewis o bentre Hermon wrth odre'r Frenni Fawr ym mis Awst 1981. Unig ferch Howard a Megan Lewis oedd hi a chwaer hŷn i Roy oedd dair blynedd yn ifancach. Athrawes (a phrifathrawes yn ddiweddarach) yn yr ysgol leol oedd Maureen. Roedd hi'n weithgar iawn yng Nghapel Hermon y Bedyddwyr hefyd ac yn ysgrifennydd, diacon ac organydd. Wedi i Eirwyn a Maureen briodi ymgartrefodd y ddau ym mhentre Maenclochog. Maent yn dal i fyw yn yr un tŷ hefyd hyd y dydd heddiw.

Addysg Gynnar

golygu

Ni chafodd Eirwyn ryw lawer o flas ar addysg yn yr ysgol gynradd, a phenderfynwyd mai derbyn hyfforddiant personol yn ei gartre oedd yr opsiwn gorau iddo i sefyll arholiadau'r 11+. Y tu hwnt i bob disgwyl fe fu'n llwyddiannus a symud ymlaen i dderbyn addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Arberth. Tra bu'n ddisgybl yno am dair blynedd roedd e'n lletya gyda thri o fechgyn eraill – Les Williams o Fynachlog-ddu a'r ddau frawd John a Gwilym Williams o Lysyfrân. Symudodd yn ôl adre i ffermio pan oedd e yn bymtheg oed wedi i'w dad gael damwain ddifrifol adeg y cynhaeaf gwair. Ar ôl iddo fod yn ffermio yng Nghastellhenri am 12 o flynyddoedd, a iechyd ei dad yn gwaethygu, penderfynodd roi'r gorau i ffermio a gwneud cais i gael ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Harlech. Coleg oedd yn rhoi cyfle i oedolion ailafael yn awenau addysg. Bu ei gais yn llwyddiannus. Fel mae'n digwydd, wyth Cymro Cymraeg yn oedd yn fyfyrwyr yn y Coleg ar y pryd a daeth rhai ohonynt yn gyfeillion agos iawn i Eirwyn yn cynnwys Emyr Wyn Rowlands o Langristiolus yn Sir Fôn, Glan Jones o Lan-saint, a Basil  Hughes o Langennech. Mae'n rhaid dweud i Eirwyn, ar y cyd ag Emyr Wyn Rowlands, fod yn cynrychioli'r Coleg  yn Ymryson Areithio Colegau Cymru yn Aberystwyth. Ysgrifennodd draethawd ymchwil hefyd ar y testun ‘Delweddau Gwenallt’, (ei hoff fardd) i roi cynnig am Mature State Scholarship, a sicrhau ei le yn y Coleg Ger y Lli.

Cymraeg, Hanes Cymru, ac Addysg, oedd ei ddewis bynciau yn ei flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol. Gwefr fawr iddo oedd cael Gwenallt yn un o'r darlithwyr. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf enillodd Gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol hefyd. Gweler  yr adran ‘Cystadlu’. Yn ystod ei ail flwyddyn ef oedd llywydd Taliesin, cymdeithas y myfyrwyr Cymraeg, a'r flwyddyn ddilynol yn drefnydd Cymdeithas y Celfau Creadigol – cymdeithas oedd yn cyfarfod  i drin a thrafod barddoniaeth o bob math.

Derbyniodd Eirwyn radd anrhydedd arbenigol yn y Gymraeg yn 1967, a chael ei benodi wedyn yn Gynorthwy-ydd Ymchwil yn y Gyfadran Addysg  i baratoi Geiriadur Termau i ddysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol a choleg; swydd y bu'n ei dal am ddwy flynedd. Dilyn y cwrs Ymarfer Dysgu wedyn, a threulio tymor o brofiad-gwaith yn ysgolion uwchradd Y Preseli a Thregaron.

Ei swydd gyntaf fel athro oedd dysgu Cymraeg a Hanes yn Ysgol Uwchradd Arberth, ei hen Ysgol Ramadeg. Cafodd ei benodi wedyn ymhen blwyddyn yn athro yn Ysgol y Preseli. Bu'n dysgu Cymraeg i wahanol lefelau drwy'r ysgol ynghyd â Hanes Cymru i rai o'r dosbarthiadau uchaf. Y Prifardd James Nicholas oedd y prifathro a daeth Eirwyn a Jâms yn gyfeillion oes.

Cystadlu

golygu

Dechreuodd Eirwyn gystadlu ar adrodd mewn eisteddfodau lleol yn bedair oed! Cafodd gryn lwyddiant arni hefyd. Ond pan oedd ei lais yn troi yn 16 oed rhoddodd y gorau iddi a chanolbwyntio ar y cystadlaethau llenyddol. Daeth wyth o wobrau iddo am farddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1959–61. Bu'n cymryd rhan (cyfansoddi englyn ar y pryd) yn y gystadleuaeth radio Sêr y Siroedd 1958–1960. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Clunderwen 1959 a chafodd y dwymyn gystadlu afael go iawn arno yn y blynyddoedd dilynol. Erbyn hyn mae'r ystadegau yn dangos iddo ennill 26 o gadeiriau ar draws Cymru gyfan. Dwy goron hefyd a dwy fedal ryddiaith.

Uchelgais pob bardd cystadleuol yw ennill naill ai y Goron neu'r Gadair yn y Genedlaethol, a chafodd uchelgais Eirwyn ei gwireddu drwy ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe  1982, a hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993. Dwy gerdd wedi eu lleoli ar dir a daear Sir Benfro.

Gwleidyddiaeth

golygu

Mae Eirwyn yn genedlaetholwr pybyr, a hyd yn oed cyn iddo ddechrau yn y Brifysgol roedd e'n aelod o gangen Maenclochog o Blaid Cymru ac yn ysgrifennydd y wasg hefyd. Daeth i gysylltiad agos â D. J. Williams, Abergwaun, yn fuan ar ôl iddo adael yr ysgol, a bu'n rhoi help llaw iddo yn aml i ddosbarthu taflenni Plaid Cymru mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol 1966 pan oedd Eirwyn yn fyfyriwr yn y Coleg yn Aberystwyth. E. G. Millward, un o'r ddarlithwyr oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion a bu Eirwyn yn canfasio'n galed drosto adeg Gwyliau'r Pasg.

Daeth yn aelod o Gymdeithas yr Iaith ar ddechrau ei gyfnod yn Aberystwyth a chymryd rhan ym mhrotestiadau'r Gymdeithas yn erbyn Seisnigrwydd y swyddfeydd post mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru.

Ni ddangosodd ddisg treth Saesneg ar sgrin ei gar ychwaith am rai blynyddoedd tan i'r awdurdodau ddarparu disg ddwyieithog. Mae Eirwyn yn dal yn genedlaetholwr o hyd ac yn cenhadu heb flewyn ar ei dafod yn etholiadau San Steffan a'r Senedd yng Nghaerdydd fel ei gilydd.

Oedfaon Unigryw

golygu

Bu Eirwyn yn gapelwr selog erioed. Cafodd ei dderbyn yn aelod yng Nghapel Seilo, Twffton yn ddeuddeg oed. Ac er iddo dreulio blynyddoedd mewn nifer o ardaloedd eraill cadwodd ei aelodaeth yn Seilo.

Fodd bynnag, ymaelododd yn y Tabernacl, Maenclochog yn 2004, capel oedd bellach ar garreg y drws. Nid oedd yno weinidog ar y pryd a chafodd Eirwyn syniad oedd wrth fodd ei galon; llunio a chyflwyno oedfaon o eitemau ar lafar ac ar gân i lenwi Suliau gwag, gyda'r aelodau eu hunain yn cymryd rhan. Mae'n rhaid dweud fod yno ddigon o dalent ar y pryd, yn cynnwys llawer o bobol ifanc ymroddgar.

Dyma rai o themâu'r oedfaon : Gweision i Grist; Crist y Beirdd; Byd yr Emyn; Dros Gymru'n Gwlad; Y Duw byw mewn gwisg fodern. Cyn pen fawr o dro roedden nhw'n cael gwahoddiad i fynd â'r oedfaon i gapeli eraill yn y gymdogaeth.

 Rhoddodd Eirwyn y gorau iddi ymhen deng mlynedd a'r olaf un oedd Oedfa Goffa i W. R. Nicholas yng Nghapel Mair, Aberteifi yn 2014. Nid gormodiaeth yw dweud ychwaith fod yr oedfaon ar ffurf eitemau wedi gafael yn y cynulleidfaoedd a bod yna fwlch ar eu hôl.

Cyfrolau Eirwyn George

golygu
  • O'r Moelwyn i'r Preselau, ar y cyd â T R Jones, Gomer, 1975. (Casgliad o gerddi o waith y ddau fardd)
  • Abergwaun a'r Fro (gol.) Christopher Davies, 1996. (Dilyniant o ysgrifau gan 18 o awduron yn ymdrin â gwahanol agweddau ar hanes Sir Benfro)
  • Y Corn Gwlad (gol.) ar y cyd â Rhys Nicholas, Gwasg Gee, 1989. (Casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith gan rai o'n hawduron blaenllaw)
  • Annibyniaeth y Bryniau (gol.) Tŷ John Penry, 1990. (Braslun o hanes 12 o eglwysi Annibynnol gogledd Sir Benfro)
  • Hanes Eglwys Annibynnol Seilo, Tufton. E. L. Jones, 1992. (Golwg ar hanes yr achos ar achlysur dathlu 150 mlynedd)
  • Egin Mai, (gol.) E. L. Jones, 1995. (Detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith disgyblion ysgolion uwchradd Sir Benfro, Caerfyrddin a Cheredigion)
  • Blodeugerdd y Preselau, (gol.) Cyhoeddiadau Barddas, 1995. (Blodeugerdd o weithiau beirdd oedd yn gysylltiedig â'r fro 1969–95)
  • Llynnoedd a Cherddi Eraill, Gwasg Gwynedd, 1996. (Casgliad o farddoniaeth Eirwyn yn cynnwys y cerddi a enillodd y Goron iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982 a Llanelwedd 1993)
  • Meini Nadd a Mynyddoedd, Gomer, 1999. (Dwy daith lenyddol-hanesyddol o gwmpas rhai o gerrig coffa nodedig ardal y Preselau)
  • Estyn yr Haul, (gol.) Cyhoeddiadau Barddas, 2000. (Blodeugerdd Ryddiaith o waith awduron Sir Benfro yn yr Ugeinfed Ganrif)
  • Gwŷr Llên Sir Benfro yn yr Ugeinfed Ganrif, Gwasg Gwynedd, 2001. (Portread o ddeunaw o awduron nodedig a aned yn y Sir)
  • Gorllewin Penfro, Carreg Gwalch, 2002. (Taith o gwmpas ardaloedd Abergwaun, Tyddewi a Hwlffordd)
  • O Gwmpas Maenclochog mewn Lluniau (dwyieithog) Clychau Clochog, 2004. (Llyfr hanes wedi ei ddosbarthu yn nifer o gategorïau)
  • Eisteddfod Maenclochog, E. L. Jones, 2005. (Golwg ar weithgareddau’r Eisteddfod ar hyd y blynyddoedd ynghyd a rhai o eisteddfodau eraill gogledd Sir Benfro)
  • Cân yr Oerwynt, Cyhoeddiadau Barddas, 2009. (Casgliad o gerddi diweddar Eirwyn George)
  • Fel Hyn y Bu , Eirwyn George, Y Lolfa, 2010. (Hunangofiant yr awdur)
  • Hiwmor y Preseli, Y Lolfa, 2011. (Casgliad o straeon yn ymwneud â hiwmor a doniolwch cefn gwlad. Pobol a digwyddiadau fel ei gilydd)
  • Cynnal y Fflam, Y Lolfa 2012. (Golwg ar weithgareddau Annibynwyr Cymraeg Sir Benfro)
  • Taith Waldo (dwyieithog) gyda D. Walford Davies, Cymdeithas Waldo, 2013. (Teithiau i ymweld â'r lleoedd oedd wedi ysbrydoli nifer o gerddi mwyaf adnabyddus Waldo yn Sir Benfro)
  • Perci Llawn Pobol (gol.) Carreg Gwalch, 2016. (Casgliad o ganu beirdd gwlad y Preseli a'r Cylch)
  • Braslun o Hanes Plwyf Castellhenri. (dwyieithog) E. L. Jones, 2018. (Hanes plwyf genedigol yr awdur yn cynnwys pobol a digwyddiadau eto)
  • Blodeugerdd Waldo  (gol.) Y Lolfa, 2020. (Casgliad o 62 o gerddi teyrnged gan 40 o feirdd)
  • Dilyn Waldo, Cymdeithas Waldo, 2021. Cyfrol i ddathlu degawd cyntaf Cymdeithas Waldo a sefydlwyd yn 2010. (Casgliad o weithgareddau o bob math yn dod i olau dydd am y tro cyntaf)
  • Brethyn Gwlad, E. L. Jones, 2022. (Detholiad o gerddi ac ysgrifau’r awdur yn ymwneud â phobol a digwyddiadau ei filltir sgwâr)

Cyfeiriadau

golygu

Darllen Pellach

golygu
  • T Gwynn Jones, 'Eirwyn George: Dyn ei Fro', Taliesin, Haf 2002
  • Donald Evans, 'Ias Sylwedd y Preselau: Golwg ar Farddoniaeth Eirwyn George', Barddas, Mawrth 2005

Dolenni Allanol

golygu

http://www.cadeiriau.cymru/