Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tywyn 1871
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1871 yn Nhywyn, Sir Feirionnydd, ar 22-24 Awst 1871 o ddydd Mawrth i ddydd Iau. Nid oedd hon yn Eisteddfod Genedlaethol swyddogol ac fe'i ddisgrifwyd fel Eisteddfod Fawreddog Towyn a Gŵyl Gerddorol.[1]
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1871 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Tywyn |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cynigiwyd Y Gadair am gerdd gynghanedd ar y testun "Mynwent". Y beirniaid oedd Ceiriog a Mynyddog, a cyhoeddwyd fod 'Heber' yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd Richard Davies (Tafolog).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "EISTEDDFOD FAWREDDOG TOWYN1871 - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1871-05-12. Cyrchwyd 2016-08-17.