Eisteddfod Hyd y Gannwyll

Eisteddfod werinol oedd Eisteddfod Hyd y Gannwyll, a gynhelid ym mhlwyf Rhoshirwaun ym Mhen Llŷn, Gwynedd, yn ystod y 19g.[1] Roedd yr eisteddfod hon yn adlewyrchu diwylliant trwyadl Gymraeg Rhoshirwaun yn y cyfnod hwnnw.

Eisteddfod Hyd y Gannwyll
Enghraifft o'r canlynoleisteddfod Edit this on Wikidata

Arferid cynnal y cwrdd llenyddol hwn mewn un o ysguborau plwyf Rhoshirwaun. Cryddion a chrefftwyr lleol eraill oedd ei phrif gynheiliaid. Byddai'r beirdd gwlad hyn yn cwrdd mewn sgubor gyda'r nos. Byddai cannwyll yn cael ei goleuo ar ddechrau'r cwrdd a'r drefn oedd mai tra parhâi'r gannwyll honno i losgi y parhâi'r eisteddfod; o ganlyniad byddai'r cyfarfod yn hwy ar noson dawel nag ar noson wyntog gan fod drafftiau'r ysgubor yn peri i wêr y gannwyll redeg ac iddi losgi'n gynt.[1]

Cofnodwyd y cerddi buddugol - yn englynion, penillion a rhigymau - mewn llyfrau a gedwid yn Nhŷ'n y Pwll, Rhoshirwaun, gyda chroeso i bawb a'i fynno eu darllen. Ar ddiwedd y 1950au roedd y llyfrau hynny ar gael o hyd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Gruffudd Parry, Crwydro Llŷn ac Eifionydd (Cyfres Crwydro Cymru, 1960).