Bardd gwlad
Yn llenyddiaeth Gymraeg, bardd a gafodd ychydig neu ddim addysg ffurfiol ac sy'n canmol ei fro a'i gymdeithas ei hun yn ei waith, fel rheol, a olygir wrth y term bardd gwlad. Fel rheol mae'n feistr ar y gynghanedd a'r mesurau caeth traddodiadol.
Hanes
golyguDaeth y bardd gwlad i'r amlwg gyda thwf y wasg ar ddechrau'r 18g. Mae enghreifftiau o feirdd gwlad y ganrif honno yn cynnwys Jonathan Huws o Langollen, Elis y Cowper, Dafydd Jones o Drefriw, Huw Jones o Langwm a Siôn Cadwaladr o'r Bala. Ceir nifer o gerddi gan feirdd gwlad yn yr almanacau Cymraeg a chyfrolau poblogaidd eraill y cyfnod a pharhaodd y traddodiad felly i'r 19g. Gellid ystyried nifer o feirdd y ganrif honno yn feirdd gwlad, e.e. Trebor Mai o Lanrwst, un o englynwyr gorau'r 19eg ganrif. Gwelir eu gwaith yn aml ar gerrig beddau yn ogystal.
Cyfoes
golyguHeddiw mae traddodiad y bardd gwlad yn parhau yng ngwaith y beirdd lleol sy'n cyfrannu penillion i'r papurau bro neu'n cystadlu â'i gilydd mewn eisteddfodau a thalwrnau lleol.
Roedd y bardd adnabyddus Dic Jones yn dal i ystyried ei hun yn fardd gwlad er gwaethaf ei amlygrwydd cenedlaethol ac mae nifer fawr o'i gerddi yn adlewyrchu rôl cymdeithasol y bardd gwlad yn ei gymdeithas. Enghraifft arall diweddar oedd "Bois y Cilie".
Llyfryddiaeth
golyguCeir gwaith nifer o feirdd gwlad ail hanner yr 20g yn y gyfres o flodeugerddi Beirdd Bro.
- W. Rhys Nicholas, The Folk Poets (Cyfres Writers of Wales, Caerdydd, 1978)