El Capitan
Ffurfiant creigiau fertigol ym Mharc Cenedlaethol Yosemite, Califfornia, Unol Daleithiau America, yw El Capitan (Sbaeneg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).; Y Capten neu Y Pennaeth). Mae wedi'i leoli ar ochr ogleddol Dyffryn Yosemite, ger ei ben gorllewinol. Mae'r monolith gwenithfaen tua 3,000 troedfedd (900 medr) o'r gwaelod i'r copa ar ei wyneb uchaf, ac mae ei ddringo yn her boblogaidd i ddringwyr creigiau.
Math | ffurfiant craig, climbing area |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Yosemite Wilderness, Parc Cenedlaethol Yosemite |
Sir | Mariposa County |
Gwlad | UDA |
Uwch y môr | 2,307 metr |
Cyfesurynnau | 37.734°N 119.637°W |
Amlygrwydd | 3 metr |
Cyfnod daearegol | Cretasaidd |
Cadwyn fynydd | Sierra Nevada |
Deunydd | gwenithfaen |
Enwyd y ffurfiant yn "El Capitan" gan Fataliwn Mariposa wrth iddynt archwilio'r dyffryn yn 1851. Cymerwyd bod El Capitan yn gyfieithiad Sbaeneg rhydd o'r enw Brodorol Americanaidd ar gyfer y clogwyn, sydd wedi'i drawsgrifio fel "To-to-con w-la" neu "To-toc- a-nw-la "(iaith Miwok).[1] Mae'n aneglur a oedd yr enw Brodorol Americanaidd yn cyfeirio at bennaeth llwythol penodol neu'n golygu "y pennaeth" neu'r "prif graig".
Gellir cyrraedd brig El Capitan trwy gerdded allan o Ddyffryn Yosemite ar y llwybr wrth ymyl Rhaeadr Yosemite, ac yna mynd ymlaen i'r gorllewin. I ddringwyr, yr her yw dringo i fyny'r wyneb gwenithfaen serth. Mae yna lawer o lwybrau dringo, pob un a'i enw ei hun ac yn llafurus i'w dringo, gan gynnwys Iron Hawk a Sea of Dreams.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Native American Indian Legends - How El Capitan Grew - Miwok". www.firstpeople.us. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-03. Cyrchwyd 2019-04-05.