Elastigedd pris y cyflenwad

Mae Elastigedd pris y cyflenwad (Price Elasticity of Supply neu PES yn Saesneg, neu Es) yn fesur sy'n cael ei ddefnyddio mewn economeg i ddangos pa mor ymatebol, neu elastig, yw maint cyflenwad nwydd neu wasanaeth i newid yn ei bris.

Mae'r elastigedd yn cael ei fesur ar ffurf niferol, ac yn cael ei ddiffinio fel canran y newid yn y nifer yr unedau sy'n cael eu cyflenwi wedi'i rannu gyda chanran y newid ym mhris y nwydd.

Pan mae'r cyfernod yn is nag un, caiff cyflenwad y nwydd ei ddisgrifio yn anelastig; pan mae'r cyfernod yn fwy nag un, caiff ei ddisgrifio yn elastig.[1] Mae elastigedd o sero yn dynodi nad yw'r nifer a gyflenwyd yn ymateb i newid pris; mae'r cyflenwad wedi'i 'osod'. Yn aml, nid oes gan y math hynny o nwyddau unrhyw gydran llafur neu nid ydynt yn cael eu cynhyrchu, gan gyfyngu rhagolygon rhediad byr o ehangu. Os yw'r cyfernod yn un ar ei ben, dywedir bod y nwydd yn elastig unedol.

Gall nifer y nwyddau a gyflenwir, yn y tymor byr, fod yn wahanol i'r nifer a gynhyrchir, gan y bydd gan weithgynhyrchwyr stoc y gallant ei gynyddu neu leihau.

Penderfynyddion golygu

Argaeledd deunyddiau crai
Er enghraifft, gallai argaeledd gyfyngu faint o aur all gael ei gynhyrchu mewn gwlad beth bynnag fo'i bris.  Yn yr un modd, mae pris darluniau Van Gogh yn annhebygol o effeithio ar eu cyflenwad.[2]
Hyd a chymhlethdod cynhyrchu
Mae llawer yn dibynnu ar gymhlethdod y proses cynhyrchu. Mae cynhyrchu tecstiliau yn gymharol syml. Mae'r llafur ar y cyfan yn ddi-grefft a chyfleusterau cynhyrchu fawr mwy nag adeiladau - nid oes angen unrhyw strwythurau arbennig. Felly mae Elastigedd Pris y Cyflenwad ar gyfer tecstiliau yn elastig. Ar y llaw arall, mae Elastigedd Pris y Cyflenwad ar gyfer rhai mathau o foduron yn gymharol anelastig. Mae cynhyrchu ceir yn broses sydd a sawl cam iddo ac yn galw am offer arbennigol, llafur crefftus, rhwydwaith fawr o gyflenwyr a chostau ymchwil a datblygu uchel.[3]
Symudedd ffactorau
Os yw ffactorau cynhyrchu ar gael yn rhwydd ac os yw cynhychydd sy'n cynhyrchu un nwydd yn gallu arallgyfeirio eu hadnoddau a'u rhoi tuag at gynhyrchu nwydd y mae galw amdano, yna gellir dweud fod Elastigedd Pris y Cyflenwad yn gymharol elastig. Mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd, ac yn ei wneud yn gymharol anelastig. 
Amser i ymateb
Po fwyaf o amser sydd gan gynhyrchydd i ymateb i newid pris, y mwyaf elastig yw'r cyflenwad. Mae cyflenwad fel arfer yn fwy elastig gyda rhediad hir nag ydyw gyda rhediad byr ar gyfer nwyddau sydd wedi'u cynhychu, gan y gellir cymryd bod holl ffactorau cynhyrchu yn gallu cael eu defnyddio i gynyddu'r cyflenwad. Llafur yn unig sy'n gallu cael ei gynyddu ar gyfer rhediad byr gyda nwyddau sydd wedi'u cynhyrchu, a hyd yn oed wedyn, gall newidiadau fod yn rhy gostus.
 Er enghraifft, nid yw ffermwr cotwm yn gallu ymateb ar unwaith (hynny yw, mewn rhediad byr) i gynnydd mewn pris ffa soya oherwydd yr amser y byddai'n ei gymryd i gael y tir angenrheidiol.
Rhestri eiddo
Gall cynhyrchydd sydd a chyflenwad o nwyddau neu gapasiti storio ar gael gynyddu'r cyflenwad i'r farchand yn gyflym.
Capasiti Cynhyrchu Sbar/Gormodol
Gall cynhyrchydd sydd a capasiti heb ei ddefnyddio ymateb yn gyflym i newidiadau mewn pris yn ei farchnad a chymryd bod ffactorau newidiol ar gael yn rhwydd. Byddai bodolaeth capasiti sbar o fewn i gwmni yn dynodol ymateb mwy cymesur ym maint y cyflenwad i newidiadau mewn pris (gan awgrymu felly elastigedd pris).  Mae'n arwydd bod y cynhyrchydd yn gallu defnyddio marchnadau ffactor sbar (ffactorau cynhyrchu) ac felly yn gallu ymateb i newidiadau mewn galw gyda chyflenwad cyfatebol. Po fwyaf yw maint y capasiti cynhyrchu sbar, y cyflymaf y gall cyflenwyr ymateb i newidiadau mewn pris ac felly bydd y elastigedd pris y nwydd/gwasanaeth yn uwch. 

Mae amryw o ddulliau ymchwil yn cael eu defnyddio i gyfrifo elatigedd pris, gan gynnwys dadansoddi data gwerthiant hanesyddol, cyhoeddus a phreifat, a'r defnydd o arolygon cyfredol o ddewisiadau cwsmeriaid i adeiladu marchnadoedd prawf sy'n gallu modelu elastigedd newidiadau o'r fath. Gellir hefyd defnyddio dadansoddiad unedig sy'n graddio dewisiadau defnyddwyr fel y gellir eu dadansoddi yn ystadegol.[4]

Cynrychioliad graffigol golygu

Mae'n bwysig nodi nad oes fel arfer berthynas rhwng elastigedd a goledd. Felly, pan mae cyflenwad yn cael ei gynrychioli yn llinellol, beth bynnag fo goledd y llinell gyflenwi, cyfernod elastigedd unrhyw gromlin gyflenwi linellol sy'n pasio trwy'r tarddiad yw 1 (uned elastig).[5] Mae cyfernod elastigedd unrhyw gromlin gyflewni linellol sy'n torri'r acsis-y yn fwy nag 1 (elastig) ac mae cyfernod elastigedd unrhyw gromlin gyflenwi linellol sy'n torri'r acsis-x yn llai nag 1 (anelastig). Yn yr un modd, ar gyfer unrhyw gromlin gyflenwi, mae'n debygol y bydd Elastigedd Pris y Cyflenwad yn amrywio ar hyd y gromlin.

Detholiad o elastigeddau cyflenwad golygu

  • Olew gwresogi: 1.58 (Rhediad byr) [6]
  • Gasolin: 1.61 (Rhediad byr) [6]
  • Tybaco: 7.0 (Rhediad hir) [6]
  • Housing: 1.6–3.7 (Rhediad hir) [6]
  • Cotwm
    • 0.3 (Rhediad byr) [7]
    • 1.0 (Rhediad hir)
  • Steel: 1.2 (Rhediad hir, o felinau bach) [8]
  • Tir: 0, ac eithrio bod adenilliad tir yn digwydd

Gweler hefyd golygu

  • Elastigedd pris y galw
  • Croes elastigedd y galw

Cyfeiriadau golygu

  1. Png, Ivan (1999). pp. 129–32.
  2. Parkin; Powell; Matthews (2002). p.84.
  3. Samuelson; Nordhaus (2001).
  4. Png, Ivan (1999). pp. 79–80.
  5. Research and Education Association (1995). pp. 595–97.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 Png (1999), p.110
  7. Suits, Daniel B. in Adams (1990), p. 19, 23. Based on 1966 USDA estimates of cotton production costs among US growers.
  8. Barnett and Crandall in Duetsch (1993), p.152