Vincent van Gogh
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Vincent Willem van Gogh (30 Mawrth 1853 – 29 Gorffennaf 1890) (Ynganiad: ˈvɪnsɛnt vɑn ˈɣɔx ). Roedd yn un o'r Ôl-argraffiadwyr (Post Impressionists), ac mae'n un o'r artistiaid enwocaf erioed.
Vincent van Gogh | |
---|---|
Ganwyd | Vincent Willem Van Gogh 30 Mawrth 1853 Zundert |
Bu farw | 29 Gorffennaf 1890 Auvers-sur-Oise, Auberge Ravoux |
Man preswyl | Monastery of Saint-Paul-de-Mausole, Cuesmes, Maison Van Gogh |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, dylunydd botanegol, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, ysgythrwr, lithograffydd, arlunydd graffig |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Potato Eaters, Café Terrace at Night, Y Noson Serennog, Bedroom in Arles, Sunflowers, Self-Portrait with Bandaged Ear, Landscape with a Carriage and a Train, Wheatfield with Crows, Head of an Old Peasant Woman with White Cap, Portrait paintings of Dr. Gachet, The siesta (after Millet) |
Arddull | celf tirlun, bywyd llonydd, portread, dinaswedd, interior view, hunanbortread, celf Gristnogol |
Prif ddylanwad | Anton Mauve, Paul Gauguin, Willem Roelofs, Paul Cézanne, Peter Paul Rubens, Jean-François Millet, Hokusai |
Mudiad | Ôl-argraffiaeth, Mynegiadaeth |
Tad | Theodorus Van Gogh |
Mam | Anna Carbentus Van Gogh |
Partner | Sien Hoornik, Margot Begemann |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Zundert. Yn ddyn ifanc, bu'n fasnachwr celf, yn athro, ac yna'n bregethwr – ond ni fu'n llwyddiannus iawn yn yr un o'r meysydd hyn.
Ym 1880 y cychwynnodd ar ei yrfa fel arlunydd, ag yntau'n 27 oed. Un o'r pethau a'i symbylodd i ddechrau arlunio oedd anogaeth ei frawd Theo, a oedd yn werthwr gwaith celf llwyddiannus ym Mharis ar y pryd. Theo oedd un o'r ychydig rai a gredai yn ei athrylith, a bu'n anfon deunyddiau peintio ac arian at ei frawd mawr yn fisol o'r cyfnod hwnnw ymlaen. Yn ystod ei fywyd ysgrifennodd Vincent lawer o lythyrau at Theo, a chadwodd Theo bob un ohonynt; cawsant eu cyhoeddi ym 1914.
Bu farw yn Auvers-sur-Oise.
Salwch meddwl
golyguRoedd rhyw fath o salwch meddwl arno. Yn ystod un o'i byliau, torrodd labed ei glust i ffwrdd. Dirywiodd ei gyflwr meddyliol tua diwedd ei oes. Ar y seithfed ar hugain o Orffennaf 1890, fe'i saethodd ei hun yn ei frest.
Bu farw yn ei wely ddeuddydd yn ddiweddarach, a Theo ei frawd wrth erchwyn ei wely. Roedd Theo wedi ceisio codi ei galon bod dyddiau gwell i ddod, ond geiriau olaf Vincent cyn marw oedd "La tristesse durera toujours" (fe bery'r tristwch am byth).
Gwaith
golyguCynhyrchodd Vincent ei holl waith, dros 2000 o weithiau i gyd gan gynnwys paentiadau a brasluniau, mewn deng mlynedd (tua 900 o beintiadau a thua 1100 o ddarluniau a brasluniau). I gychwyn, roedd ei luniau'n dywyll eu lliw, nes iddo ddarganfod gwaith yr argraffiadwyr ym Mharis. Daw mwyafrif ei luniau enwocaf o ddwy flynedd olaf ei fywyd, a gwnaeth 90 o luniau yn y deufis olaf. Roedd ei enwogrwydd wedi tyfu'n raddol ers ei arddangosfeydd cyntaf o 1880 ymlaen, ac wedi ei farwolaeth bu arddangosfeydd coffa iddo ym mhrif ddinasoedd Ewrop.
Dylanwad
golyguBu ei ddylanwad ar gelf yr 20g yn enfawr, yn arbennig artistiaid mynegiadol (expressionist) ac arlunwyr 'Fauve'. Erbyn hyn, mae ei waith ymysg y gwaith celf enwocaf, y mwyaf poblogaidd a'r drytaf erioed.
-
Y Bwytwyr Tatws
-
Hunanbortread heb ei glust
-
Tai a welwyd o'u cefn
-
Caffi Teras yn y Nos
-
Bywyd Llonydd gydag Absinthe
-
Tŷ Gwyn yn y Nos
-
Nos Serennog dros y Rhone
-
Olewydd