Electro-bysgota
Modd o bysgota yw electro-bysgota sydd yn defnyddio trydan cerrynt uniongyrchol sy'n llifo rhwng cathod ac anod suddedig. Mae hyn yn effeithio symudiant y pysgod, fel eu bod yn symud tua'r anod, lle gellir eu dal.[1]
Mae electro-bysgota yn ddull arolwg gwyddonol cyffredin er mwyn samplu poblogaethau pysgod i bennu eu nifer, dwysedd a'r rhywogaeth. Pan gaiff ei berfformio'n gywir, nid yw electro-bysgota yn arwain at niwed parhaol i bysgod, sy'n dychwelyd i'w stad naturiol mewn llai na dwy funud ar ôl cael eu dal.
Dull
golyguMae electro-bysgota yn dibynnu ar ddau electrodau sy'n rhoi cerrynt uniongyrchol foltedd uchel i'r cathod drwy'r dŵr. Pan mae pysgodyn yn dod ar draws disgyniad posibl digon mawr, mae'n cael ei ffeithio gan y trydan. Fel arfer caiff pylsiadau cerrynt uniongyrchol eu darparu, sy'n achosi galvanotaxis yn y pysgod. Dirdyniadau cyhyrol direolaeth yw galvanotaxis, sy'n achosi i'r pysgod nofio tuag at yr anod. Mae angen o leiaf dau berson er mwyn electro-bysgota'n effeithiol: un i weithredu'r anod, a'r llall i ddal y pysgod â rhwyd.[2]
Effeithiolrwydd
golyguCaiff effeithiolrwydd electro-bysgota ei ddylanwadu gan ystod o ffactorau biolegol, technegol, logistaidd ac amgylcheddol. Mae maint y pysgod a chyfansoddiad rhywogaeth yn effeithio ar yr hyn a gaiff ei ddal. Wrth ddefnyddio pylsiadau o gerrynt uniongyrchol, mae cyfradd y pwls a'r dwysedd y maes trydanol yn effeithio'n fawr ar faint a natur yr hyn a gaiff ei ddal. Mae dargludedd y dŵr yn effeithio ar siâp a maint y maes trydanol.
Gall hefyd niweidio'r pysgod. Mae'r trydan yn achosi spasmau yn y cyhyrau sy'n niweidio'r asgwrn cefn. Mae hyn yn fwy cyffredin a difrifol mewn pysgod hirach, ond nid yw'n wybyddus pam.[3][4]
Y gyfraith
golyguEr y caiff electro-bysgota ei ddefnyddio gan nifer o asiantaethau llywodraethol, gall fod yn anghyfreithlon i'w ddefnyddio fel modd o bysgota hamdden. Gellid ystyried y dull hwn yn botsio. Er enghraifft, yn Fflorida mae electro-bysgota at ddibenion personol yn groes i'r gyfraith daleithiol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "FISHNET SHOCKINGS" Archifwyd 2016-12-20 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Balachandran, Ajay; Krishnan B; Lizha John (2 December 2013). "ACCIDENTAL DEATHS DUE TO ELECTROCUTION DURING AMATEUR ELECTRO-FISHING". Journal of Evolution of Medical and Dental Sciences 2 (48): 9376–9379. http://www.jemds.com/data_pdf/ajay%20balachandran.pdf. Adalwyd 2 December 2013.
- ↑ 2003 study: Immobilization Thresholds of Electrofishing Relative to Fish Size, biologists Chad Dolan and Steve Miranda
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-17. Cyrchwyd 2017-07-20.
Ffynonellau
golygu- Helfman, Gene S (2007) Fish Conservation: A Guide to Understanding and Restoring Global Aquatic Biodiversity and Fishery Resources Island Press, tt. 452–453. ISBN 978-1-55963-596-7978-1-55963-596-7
- Hill, David; Fasham, Matthew; Tucker, Graham; Shewry, Michael a Shaw, Philip (2005) Handbook of Biodiversity Methods: Survey, Evaluation and Monitoring Gwasg Prifysgol Caergrawnt, tt. 383–385. ISBN 978-0-521-82368-5978-0-521-82368-5
- Fishery Research - Electrofishing National Park Service, US Department of the Interior. Cyrchwyd 2 Hydref 2008.
- U.S. Fish and Wildlife Service (2004) Electrofishing Archifwyd 2013-11-25 yn y Peiriant Wayback
- Northop, Robert (1966) Electrofishing. IEEE TRANSACTIONS ON BIO-MEDICAL ENGINEERING, Cyfrol. BME-14, Rhif. 3, Gorffennaf 1967 [1]
- Legal, "Florida" Archifwyd 2017-07-13 yn y Peiriant Wayback
Dolenni allanol
golygu- electrofishing.net Serving the Global Fisheries Community with Training | Tools | Research Archifwyd 2019-02-12 yn y Peiriant Wayback
- Delaware Division of Fish and Wildlife, Fish Monitoring via Electrofishing Archifwyd 2011-02-21 yn y Peiriant Wayback
- Electrofishing Effects on Endangered Fishes Archifwyd 2012-03-19 yn y Peiriant Wayback
- International electrofishing email forum Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback
- Electrofishing Archifwyd 2013-09-17 yn y Peiriant Wayback
- What-If xkcd (Electrofishing for Whales)