Eleri Llewelyn Morris

Awdures Gymreig ydy Eleri Llewelyn Morris. Fe'i ganed ym mhentref Mynytho ym Mhen Llŷn a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Botwnnog. Graddiodd mewn seicoleg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl hynny, bu'n olygydd y cylchgrawn i ferched, Pais, am bum mlynedd. Roedd ei chyfrol o straeon byrion Straeon Bob Lliw ar y cwrs TGAU am dros ddegawd.[1]

Eleri Llewelyn Morris
Geni
Mynytho, Pen Llŷn, Cymru
Galwedigaeth Nofelydd, Sgriptwraig, cyfieithydd
Cenedligrwydd Cymraes
Math o lên Straeon byrion
Gwaith nodedig Straeon Bob Lliw, Genod Neis

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Morris, Eleri Llewelyn (Mehefin 1993). Genod Neis. Y Lolfa. ISBN 0-86243-293-6