Elfen Grŵp 10
Grŵp → | 10 |
---|---|
↓ Cyfnod | |
4 | 28 Ni |
5 | 46 Pd |
6 | 78 Pt |
7 | 110 Ds |
Grŵp o ddeg elfen yn y tabl cyfnodol ydy elfen grŵp 10. Maen nhw i gyd yn fetelau trosiannol gwyn neu lwyd golau eu lliw. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 10 yn cynnwys: nicel (Ni), paladiwm (Pd), platinwm (Pt), a darmstadtiwm (Ds).
Mae patrwm yr electronnau'n debyg rhwng aelodau unigol y teulu, yn enwedig ar du allan y gragen, er mai gwan iawn ydy'r patrwm yn y grŵp neu'r teulu hwn o elfennau. Mae yna un eithriad: paladiwm.
Z | Elfen | Nifer yr electronnau |
---|---|---|
28 | nicel | 2, 8, 16, 2 |
46 | paladiwm | 2, 8, 18, 18 |
78 | platinwm | 2, 8, 18, 32, 17, 1 |
110 | darmstadtiwm | 2, 8, 18, 32, 32, 17, 1 |
Priodweddau
golyguFel y dywedwyd uchod, maen nhw i gyd yn fetalau trosiannol gwyn neu lwyd golau eu lliw ac yn eitha gloyw (Saesneg: "high luster") a thydyn nhw ddim yn ocsideiddio'n hawdd.
Cymhwyso
golygu- Addurniadau ar dlysau e.e. electro-haenu
- Catalydd mewn nifer o adweithiau cemegol
- Aloi metel
- Metal Alloys
- Rhannau electronig gan eu bont yn aros yn gyson mewn tymhereddau gwahanol.