Agor y brif ddewislen

Metel (lluosog: metalau) yw math o elfen (caled fel arfer) gyda phriodweddau penodol. Maen't yn elfennau gydag egnïon ïoneiddiad isel, sy'n eu galluogi i ffurfio catïonau yn hawdd ac yn arwain at fath o fondio a elwir yn bondio metelig. Oherwydd y bondio yn yr elfennau hyn, mae ganddynt briodweddau cyffelyb a nodweddiadol. Er bod anfetelau yn bresennol mewn canrannau uwch ar y ddaear, mae dros hanner yr elfennau naturiol yn fetelau. Yn y tabl cyfnodol mae'r metelau ar y chwith gyda llinell igam-ogam yn eu gwahanu'r o'r anfetelau. Mae'r llinell yn rhedeg o foron i boloniwm, gyda'r elfennau o amgylch y llinell yn lled-fetelau.

Crisial Galiwm

Priodweddau ffisegolGolygu

Mae'r metelau yn solidau sgleiniog, fel arfer. Arian byw yw'r unig un nad yw'n solid, gan ei fod yn hylif trwm yn ei gyflwr safonol. Mae'r mwyafrif yn arian o ran eu lliw, ond mae gan rai ohonynt liwiau gwahanol gyda lliwiau copr ac aur mor nodweddiadol nes bod enw'r metelau yn dod o enw'r lliw.

Maent hefyd yn:

  • Dargludyddion trydanol gyda chopr ac aur ymysg y dargludyddion gorau
Oherwydd bod yr ïonau positif mewn môr o electronau, ac felly gall yr electronau rhydd yma llifo pan roddir foltedd ar draws yr adeiledd metel. Arian yw'r defnydd sy'n dargludo fwyaf, ond oherwydd ei phris uchel, defnyddir copr.
  • Dargludyddion thermol
Mae'r gwres yn gwneud i'r electronau rhydd i ddirgrynu, mae'r egni dirgrynu yma yn trosglwyddo i wres ac yn teithio trwy'r ddellten.
  • Deunyddiau hydrin
Mae hyn meddwl bod modd eu plygu a gwasgu i siâp. Mae'r haenau yn llithro dros ei gilydd heb dorri'r bond metelig.
  • Deunyddiau hydwyth,
Mae hyn meddwl bod modd tynnu i wifrau yn hawdd. Mae'r haenau yn llithro dros ei gilydd heb dorri'r bond metelig.
  • Ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel iawn
Mae angen egni mawr i dorri'r ddellten ïonig. Heblaw am un eithriad, sef Mercwri, sy'n ymdoddi ar -39°C ac yn hylif ar dymheredd ystafell.

Priodweddau cemegolGolygu

Mae metelau yn colli electronau yn hawdd ffurfio catïonau, felly maent yn adweithio gydag anfetelau i ffurfio cyfansoddion ïonig. Maent yn ffurfio ocsidau basig trwy adweithio gydag ocsigen.

Bondio yn yr elfenGolygu

Tarddiad y bondio mewn metelau yw eu hegnïon ïoneiddiad isel. Yn yr elfen mae'r atomau yn colli eu helectronau allanol i ffurfio dellten o gatïonau. Mae'r electronau allanol yn ffurfio môr o electronau dadleoledig sy'n rhydd i symud o amgylch yr ïonau positif. Mae hwn yn arwain at sglein a dargludedd yr elfennau. Nid yw'r cymoedd yn gyfeiriadol, felly mae modd newid eu siapau yn hawdd sy'n eu gwneud yn hydrin a hydwyth. Yn ogystal, mae'r môr o electronau yn gallu arwain cerrynt trydanol yn hawdd trwy'r metel.

Ar lefel fwy dwfn gellid disgrifio metel yn nhermau'r lefelau egni ar gyfer yr electronau dadleoledig. Maent yn ffurfio bandiau o lefelau egni, gyda'r band falens a'r band dargludiad yn orgyffwrdd. Mae'r broses yn galluogi'r electronau falens i gael eu trosglwyddo i'r band dargludiad lle gallant symud. Mae'r diffiniad hwn yn agor y posibilrwydd o fetelau nad ydynt yn elfennau neu gymysgedd o fetelau elfennol (aloi). Mae rhai polymerau organig sydd yn cynnwys electronau dadleoledig yn dangos priodweddau metel a gelwir y rhain yn fetelau organig.

Chwiliwch am metel
yn Wiciadur.