Elfen trosiannol (Saesneg: Transition element), neu fetel trosiannol (yn ôl diffiniad IUPAC ydy ""an element whose atom has an incomplete d sub-shell, or which can give rise to cations with an incomplete d sub-shell." Yn ôl y diffiniad hwn, dydy elfennau grŵp 12 ddim yn fetalau trosiannol.

Chwith i dde: Co(NO3)2 (coch); K2Cr2O7 (oren); K2CrO4 (melyn); NiCl2 (gwyrddlas); CuSO4 (glas); KMnO4 (porffor).

Daw'r enw trosiannol o'u safle yn y tabl cyfnodol o elfennau. Ym mhob un o'r 4 cyfnod ble maent yn eistedd yn y tabl, mae'r elfennau hyn yn cynrychioli electronnau ychwanegol i orbit d yr atomau. Mae'r grŵp, felly yn y canol, neu mewn cyfnod o newid rhwng grŵp 2 a Grŵp 13.