Mewn cemeg a ffiseg, atom (Hen Roeg átomos (ἄτομος) sy'n cael ei gyfieithu'n ‘anwahanadwy, methu ei dorri’) yw'r gronyn lleiaf mewn elfen gemegol sy'n dal ei briodweddau cemegol. Er yn y gorffennol y credwyd ei fod yn amhosib torri atom, o fewn Cemeg modern rydym yn gwybod fod atom wedi ei gyfansoddi o ronynnau isatomig:

  • electronau, sydd â gwefr negatif, maint mor fach y mae'n anfesuradwy, a màs llawer yn llai na'r ddau fath o ronyn isatomig arall.
  • protonau, sydd â gwefr bositif, a màs sydd tua 1836 gwaith yn fwy na electron.
  • niwtronau, sydd â dim gwefr, a màs sydd tua 1836 gwaith yn fwy na electron.
Atom
Mathendid cemegol, gronyn cyfansawdd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysniwclews atomig, plisgyn yr electron, gronyn isatomig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Diagram o atom Heliwm, He. Yn y niwclews gwelir 2 broton (coch), a 2 niwtron (gwyrdd). Gwelir 2 electron (melyn) mewn plisgyn o amgylch y niwclews.

Mae protonau a niwtronau yn dorradwy eu hunan hefyd, ond credir bod electronau yn ronynnau sylfaenol.

Mae'r protonau a niwtronau yn ffurfio niwclews atomig dwys a masfawr, a elwir yn luosogol yn niwcleonau. Mae'r electronnau yn ffurfio cwmwl o electronnau sy'n amgylchynu y niwclews.

Ym mhob sylwedd ac eithrio'r nwyon nobl, mae atomau yn cyfuno i ffurfio moleciwlau.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am atom
yn Wiciadur.