Elfyn John Richards
Ffisegydd Cymreig oedd Elfyn John Richards (28 Rhagfyr 1914 – 7 Medi 1995).
Elfyn John Richards | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1914 y Barri |
Bu farw | 7 Medi 1995 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Q10497074, peiriannydd, ffisegydd |
Cyflogwr |
Dyddiau cynnar golygu
Ganwyd yn y Barri ym 1914. Addysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wedyn ymlaen i Gaergrawnt fel cyn-orthwyr ymchwil i Gwmni Awyrennau Bryste. Ar ôl ei gyfnod ym Mryste gweithiodd yn adran awyrennau'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol. Richards oedd prif gynllunydd cynorthwyol Vickers Armstrong ac roedd yn gyfrifol am gynllun yr awyrennau Viking, Viscount a’r VC 10. Roedd hyn yn ystod 1945 a 1950.
Gwaith academaidd golygu
Penodwyd Richards yn Athro Peirianneg Awyrennol ym Mhrifysgol Southampton a phenodwyd ef yn gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil i Sŵn a Dirgryniad. Yn 1959 fe gafodd radd D.Sc Cymru fel cydnabyddiaeth o’i waith a derbyniodd fedalau aur Sefydliad y Peirianwyr sifil a’r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol.
Penodwyd ef yn is-ganghellor Prifysgol Loughborough yn 1973.[1]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Roberts, O.E. Rhai o Wyddonwyr Cymru. Cyhoeddiadau Modern Cymreig.