Nyrs a chwaraewraig Cymreig yw Elin Haf Davies, a adnabyddir gan amlaf fel Elin Haf. Mae'n gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru a chlwb London Wasps.[1] Ar y hyn o bryd mae'n gweithio fel Gweinyddwr Gwyddonol ar gyfer Asiantaeth Gwerthuso Moddion Ewrop.[2]

Elin Haf
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Yn un sy'n mwynhau sialens, mae wedi codi bron i £250,000 ar gyfer elusennau drwy gyflawni amryw o gampau. Ysgrifennodd gyfrol yn dilyn hanes ei anturiaethau yn rhwyfo ar draws Gefnfor yr Iwerydd, sef Ar Fôr Tymhestlog. Cyrrhaeddodd hwn restr hir gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Darren Devine (18 Tachwedd 2010). Elin Haf Davies tells of her restless drive for adventure. Western Mail.
  2.  Elin Haf Davies. Linked In (18 Tachwedd 2010).

Dolenni allanol

golygu



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.