Ellis Pierce
awdur rhamantau hanesyddol a llyfrwerthwr
Llyfrwerthwr ac awdur o Gymru oedd Ellis Pierce (29 Ionawr 1841 - 31 Gorffennaf 1912).
Ellis Pierce | |
---|---|
Ffugenw | Elis o'r Nant |
Ganwyd | 29 Ionawr 1841 Dolwyddelan |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1912 Dolwyddelan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llyfrwerthwr, llenor |
Cafodd ei eni yn Nolwyddelan yn 1841 a bu farw yn Nolwyddelan. Cymerodd ran amlwg mewn dadleuon newyddiadurol ar faterion addysg, pwnc y tir, a gwelliannau cymdeithasol, ac ysgrifennodd lawer ar hanes a hynafiaethau lleol. Drwy ei ysgrifau beiddgar gwnaeth iddo'i hun elynion erlidgar. Yn 1870, bu raid iddo gilio i Utica yn yr Unol Daleithiau, ond dychwelodd yn 1874, gan ddechrau busnes deithiol i werthu llyfrau a mân nwyddau cyffredinol.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru casgliad archifau am y person yma.