Dolwyddelan

pentref ym Mwrdeisdref Sirol Conwy

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dolwyddelan.[1][2] Saif yn Nyffryn Lledr ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Enwir y pentref ar ôl Sant Gwyddelan, nawddsant y plwyf. Mae'r A470 a Rheilffordd Dyffryn Conwy yn pasio drwy'r pentref.

Dolwyddelan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGwyddelan Edit this on Wikidata
Poblogaeth474 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,922.21 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0424°N 3.8952°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000116 Edit this on Wikidata
Cod OSSH730511 Edit this on Wikidata
Cod postLL25 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map

Hanes golygu

Yn ymyl y pentref ar glogwyn isel y mae Castell Dolwyddelan, un o gestyll Tywysogion Gwynedd a man geni Llywelyn Fawr yn ôl traddodiad. Yma hefyd y mae Tanycastell, man geni y pregethwr John Jones, Talysarn. Ychydig yn is i lawr y dyffryn ceir safle caer Rufeinig ym Mryn-y-Gefeiliau. Ar draws y ffordd i'r ffordd fawr ceir Tomen y Castell, sef hen domen o'r Oesoedd Canol.

 
Dolwyddelan tuag 1875

Llên gwerin golygu

Un a aned yng Ngwm Wybrnant, uwchben Penmachno oedd Ellis Pierce (1841-1912), neu Elis o'r Nant, fel yr adnabyddid ef yngyffrediniol. Ymysg y pynciau y rhoddai sylw iddynt oedd hanes y tywydd yn ei gynefin, Dolwyddelan, a enwir yn 'wlad y gôg', a'i thrigolion yn 'gwcws' hyd heddiw, oherwydd chwedl hynafol am y lle. Yn ôl y chwedl, ganrifoedd ynghynt penderfynodd y cwrddplwy' i geisio cadw'r gôg yn No'ddelan drwy'r flwyddyn gan godiwal uchel o amgylch y fro.[3]

Y Bont Rufeinig golygu

Uwchlaw'r pentref yn rhan uchaf y dyffryn mae hen bont a elwir Y Bont Rufeinig. Dywedir iddi gael ei chodi i gludo'r hen ffordd Rufeinig o Canovium (Caerhun) i Domen y Mur, gwersyll Rhufeinig ger Trawsfynydd. Mae ganddi bensaernïaeth anghyffredin iawn, gyda wyth fwa o gerrig anferth, ond ymddengys ei bod yn perthyn i'r cyfnod modern cynnar yn hytrach na'r cyfnod Rhufeinig. Mae'r hen ffordd i fyny'r dyffryn i Flaenau Ffestiniog yn ei chroesi.

 
Y Bont Rufeinig, Dolwyddelan

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dolwyddelan (pob oed) (474)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolwyddelan) (238)
  
51.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolwyddelan) (260)
  
54.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolwyddelan) (83)
  
38.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Ddolwyddelan golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. Vivian Parry Williams[[1]]tudalen 6
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.