Ffeminist Americanaidd oedd Elmina Wilson (29 Medi 1870 - 4 Mehefin 1918) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel peiriannydd sifil a swffragét. Elmina Wilson oedd y fenyw Americanaidd gyntaf i gwblhau gradd pedair blynedd mewn peirianneg sifil.

Elmina Wilson
GanwydElmina Tessa Wilson Edit this on Wikidata
29 Medi 1870 Edit this on Wikidata
Harper Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mehefin 1918 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Talaith Iowa
  • Sefydliad Technoleg Massachusetts Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd sifil, swffragét, peiriannydd Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Harper, Iowa a bu farw yn Ninas Efrog Newydd. Mynychodd Brifysgol Talaith Iowa a Sefydliad Technoleg Massachusetts. Derbyniodd radd meistr gyntaf i fenyw mewn peirianneg sifil a hi oedd yr athro-prifysgol benywaidd cyntaf i ddysgu peirianneg ym Mhrifysgol Talaith Iowa (ISU). Ei phrosiect cyntaf oedd fel cynorthwyydd ar ddylunio Tŵr Dŵr Marston ar gampws Prifysgol Iowa. Ar ôl dysgu am ddegawd yn yr ysgol, symudodd i Ddinas Efrog Newydd i fynd i weithio fel peiriannydd sifil i gwmni preifat. Gweithiodd Wilson gyda Chwmni James E. Brooks, y cwmni dylunio skyscraper, Purdy a Henderson, a Chwmni John Severn Brown.

Magwraeth golygu

Ei rhieni oedd Olive (g. Eaton) a John C. Wilson. Hi oedd y bedwaredd plentyn mewn teulu o bump; enwau ei brawd a'i chwiorydd oedd: Warren, Fanny, Olive, Anna, ac Alda (a raddiodd yr un pryd, mewn peirianneg).[1]

Roedd y ddwy chwaer (hi ac Alda) yn aelodau o frawdoliaeth menywod Pi Beta Phi ac yn gefnogwyr selog i addysg menywod a thros y bleidlais i fenywod (etholfraint).[1][2][3]

Gwaith golygu

Yn fuan ar ôl iddi raddio, dechreuodd Wilson weithio yn ISU (Prifysgol Iowa), yn gyntaf fel cynorthwyydd yn ystafell ddrafftio’r ysgol ac yna cafodd ei dyrchafu fel hyfforddwr y flwyddyn ganlynol.[2]

Cymerodd Wilson gwrs gaeaf mewn hydroleg ym Mhrifysgol Cornell a dychwelodd i ddysgu ffiseg yn ISU. Yn ystod ei gwyliau haf, bu’n gweithio gyda’i chwaer Alda yn Chicago gyda chwmni Patton & Miller, yn gwneud gwaith drafftio ac am y ddau wyliau gaeaf nesaf, bu’n astudio yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) gan ennill gradd i raddedig.[4][5]

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Weingardt 2010, t. 192.
  2. 2.0 2.1 Bix 2014, t. 31.
  3. Weingardt 2010, t. 195.
  4. The Courier-Journal 1905, t. 38.
  5. The Ames Times 1902, t. 11.