Peiriannydd sifil
Peirianneg sifil yw'r term ar gyfer y gwaith o ddylunio ac adeiladu seilwaith. Mae fel arfer yn golygu strwythurau mawr, fel pontydd, argaeau, adeiladau a thwneli . Mae hefyd yn cynnwys rhwydweithiau cymhleth fel rhwydweithiau dŵr, dyfrhau a charthffosiaeth. Mae hefyd yn ymwneud ag adeiladu tai a chartrefi.[1] Gall peirianwyr sifil fod yn rhan o bob cam ym mywyd isadeiledd, o gynllunio ac adeiladu i gynnal a chadw a dymchwel. Mae peirianneg sifil yn aml yn gorgyffwrdd â phensaernïaeth.
Enghraifft o'r canlynol | cangen o beirianneg, maes gwaith, gradd academaidd |
---|---|
Math | peirianneg |
Rhan o | peirianneg |
Yn cynnwys | peirianneg cludiant, geotechnical engineering, peirianneg strwythurol, foundation engineering, construction engineering, construction management |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan beirianneg sifil lawer o wahanol feysydd neu ddisgyblaethau. Rhai meysydd pwysig yw geodechnegol, strwythurau, amgylchedd,[2] rheolaeth adeiladu, hydroleg, cludiant a deunyddiau . Mae'n bwysig bod gan beirianwyr sifil ddealltwriaeth o'r holl ddisgyblaethau hyn gan fod prosiectau yn aml yn cynnwys llawer ohonynt ar yr un pryd.
Mae peirianwyr sifil yn gyfrifol am lawer o'r pethau sy'n ofynnol i gymdeithas weithredu'n iawn. Mae cyflenwadau dŵr diogel, trin carthffosiaeth, ffyrdd, rheilffyrdd ac adeiladau i gyd yn rhan o beirianneg sifil.
I weithio ym maes peirianneg sifil mae angen hyfforddiant. Bydd gweithwyr adeiladu yn hyfforddi mewn canolfan ac 'yn y gwaith', weithiau gyda phrentisiaeth.
I fod yn weithiwr proffesiynol mewn peirianneg sifil mae angen astudio mewn prifysgol neu goleg.[3] Mae peirianwyr sifil yn aml yn astudio pynciau fel strwythurau, deunyddiau, ffiseg a chalcwlws .
Cynrychiolir proffesiwn peirianneg sifil gan gyrff proffesiynol mewn amrywiol wledydd. Yn y DU mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn hyrwyddo peirianneg sifil fel disgyblaeth ac yn cefnogi peirianwyr trwy gydol eu gyrfaoedd. Mae Cymdeithas Peirianwyr Sifil America yn cyflawni tasg debyg yn UDA.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "What is civil engineering? | Institution of Civil Engineers". www.ice.org.uk. Cyrchwyd 2021-03-13.
- ↑ "Guide to sustainable procurement in construction". Institution of Civil Engineers (ICE). 2021-01-20. Cyrchwyd 2021-03-13.
- ↑ "Peirianneg Sifil - Prifysgol Abertawe". www.swansea.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 2021-03-13.