Emilie Autumn
Awdures a chantores-gyfansoddwraig Americanaidd yw Emilie Autumn (ganwyd 22 Medi 1979) sydd hefyd yn fardd, yn fiolinydd, yn bianydd, yn harpsicordydd ac yn actores.[1]
Emilie Autumn | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1979 Los Angeles |
Label recordio | Trisol Music Group, The End Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, bardd, fiolinydd, pianydd, llenor, harpsicordydd, canwr-gyfansoddwr, actor |
Arddull | cerddoriaeth glasurol, dark cabaret, industrial music, electronica, cerddoriaeth yr oes newydd, Canu gwerin |
Math o lais | contralto |
Gwefan | http://www.emilieautumn.com/ |
Ganed Autumn Mae Liddell yn Los Angeles ar 22 Medi 1979. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Indiana, Bloomington.[2][3][4]
Mae arddull gerddorol Emilie Autumn yn cael ei disgrifio ganddi fel "Fairy Pop", "Fantasy Rock" neu "Victoriandustrial". Y dylanwad pennaf yw roc glam, dramâu, nofelau, a hanes, yn enwedig o oes Victoria. Wrth berfformio, mae ganddi ddawnswyr benywaidd wrth gefn (The Bloody Crumpets), a cheir elfennau o gerddoriaeth glasurol, cabaret, electronica, a roc glam gyda theatrics, a burlesque.[5]
Magwraeth
golyguFe'i magwyd yn Malibu, California, a dechreuodd ddysgu'r ffidil yn bedair oed a gadael yr ysgol rheolaidd pum mlynedd yn ddiweddarach gyda'r nod o ddod yn fiolinydd o safon fyd-eang; bu'n ymarfer wyth neu naw awr y dydd a darllenodd ystod eang o lenyddiaeth ar yr offeryn. Gwniadwraig oedd ei mam ac roedd ei thad yn Almaenwr, ond nid oedd ganddi berthynas agos gydag ef. Roedd gan ei rhieni ddiddordeb mewn cerddoriaeth, er nad oeddent eu hunain yn cannu offeryn.[6][7]
Coleg a pherfformio
golyguAeth ati i gyfansoddi ei cherddoriaeth ei hun ac astudiodd o dan amryw o athrawon ym Mhrifysgol Indiana; gadawodd ar ganol ei chwrs wedi cryn ddadlau yn ymwneud â'r berthynas rhwng cerddoriaeth glasurol a pherfformiadau byw, modern.
Aeth ati i greu ei label ei hun, Traitor Records, a chynhyrchodd albwm, On a Day: Music for Violin & Continuo gydag Enchant yn dynn ar ei sodlau, yn 2003.
Ymddangosodd fel rhan o fand cefn Courtney Love yn 2004, ar daith o'r enw America's Sweetheart, a dychwelodd i Ewrop. Cyhoeddodd Opheliac yn 2006, ar label Almaenig y Trisol Music Group.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Autumn, Emilie (5 Ebrill 2010). "There have been questions..." Twitter. Cyrchwyd 2 Chwefror 2011.
There have been questions about my legal name for some reason lately – It's in the book. Emilie Autumn Liddell.
- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Emilie Autumn". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ "Emilie Autumn". The End Records. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Chwefror 3, 2010. Cyrchwyd Chwefror 16, 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Weekend Hotlist". Pittsburgh Post-Gazette. 3 Rhagfyr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-18. Cyrchwyd 3 Ionawr2010. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Wilson, MacKenzie. [[[:Nodyn:Allmusic]] "Emilie Autumn"] Check
|url=
value (help). Allmusic. Cyrchwyd 11 Awst 2010. - ↑ Autumn, Emilie (Medi 28, 2004). "My dad's gone, and more pleasant notes on the world today..." Emilie Autumn Ent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)