Gwleidydd ac undebwr llafur Cristnogol o'r Eidal oedd Emilio Gabaglio (1 Gorffennaf 19377 Hydref 2024).[1] Yn aelod o'r Undeb Catholig, ef oedd chweched llywydd yr Associazioni Cristiane dei Lavoratori Italiani, pennaeth Cydffederasiwn Undebau Gweithwyr yr Eidal ac ysgrifennydd cyffredinol Cydffederasiwn Undebau Llafur Ewrop rhwng 1991 a 2003.

Emilio Gabaglio
Ganwyd1 Gorffennaf 1937 Edit this on Wikidata
Como Edit this on Wikidata
Bu farw7 Hydref 2024 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Swyddysgrifennydd cyffredinol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd yr Eidal Edit this on Wikidata
MudiadSyndicaliaeth Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Commander of the Cross of the Order of Merit of the Republic of Poland Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Cafodd Gabaglio ei eni yn Como, Lombardia, yn fab i wneuthurwr clociau[2] Daeth yn athro addysg uwch ac yn gynghorydd yn Ninas Como ar ôl graddio mewn Gwyddorau Economaidd ym Mhrifysgol Gatholig Milan.

Bu'n weithgar yng Nghymdeithasau Cristnogol Gweithwyr yr Eidal (Associazioni Cristiane dei Lavoratori Italiani, ACLI) ac etholwyd ef yn llywydd cenedlaethol y sefydliad hwn ym 1969, gan wasanaethu hyd 1972. Gellir dadlau mai ei fandad oedd yr anoddaf, o ystyried iddo ddechrau yn fuan ar ôl i'r sefydliad dorri â'r hierarchaeth Gatholig.

Roedd ar fwrdd tŷ cyhoeddi chwith Catholig “COINES” yn Rhufain.

Roedd yn gweithio gyda Chydffederasiwn Undebau Gweithwyr yr Eidal (CISL) o 1974 ymlaen, ac fe'i hetholwyd yn aelod o'i chyngor cyffredinol ac yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol. Ef oedd cynrychiolydd gweithwyr yr Eidal yng nghynhadledd y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO).

Etholwyd ef yn aelod o ysgrifenyddiaeth genedlaethol Cydffederasiwn Undebau Gweithwyr yr Eidal yn 1983, yn gyfrifol am bolisi rhanbarthol a'r farchnad lafur, ac yna o'r Adran Trefniadaeth.

Yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cydffederasiwn Undebau Llafur Ewrop (ETUC)[3] ers 1979, fe'i hetholwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cydffederasiwn yn eu cyngres yn Lwcsembwrg yn 1991 a'i ail-ethol yn 1995 ym Mrwsel ac yna ym Mehefin 1999 yn Helsinki. Fe gymrodd John Monks yr awenau yn 2023.[4]

Rhwng 2006 a 2008, bu'n gynghorydd i Weinidog Llafur yr Eidal dros faterion Ewropeaidd.[5] Yn ystod yr un cyfnod, bu'n llywydd Pwyllgor Cyflogaeth yr Undeb Ewropeaidd.[6]

Roedd hefyd yn aelod o bwyllgor gwaith y Mudiad Ewropeaidd Rhyngwladol, Cyngor yr Academi Cyfraith Ewropeaidd yn Trier a'r Ganolfan Polisi Ewropeaidd ym Mrwsel.

Roedd yn swyddog y Lleng Anrhydedd ac yn Gadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "È morto Emilio Gabaglio, è stato presidente del Forum Lavoro del Partito Democratico". RomaToday (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2024-10-10.
  2. Elisabeth Lambert Abdelgawad; Hélène Michel (2015). "Dictionnaire des acteurs de l'Europe". Bruxelles: Larcier. t. 540. Cyrchwyd 23 Mai 2016..
  3. ETUC
  4. Christophe Degryse a Pierre Tilly, 1973-2013: 40 ans d'histoire de la Confédération européenne des syndicats (Brwsel: ETUI, 2013)
  5. "Emilio Gabaglio, Former General Secretary of the European Trade Union Confederation (ETUC)". newpactforeurope.eu (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mai 2016..
  6. "Emilio Gabaglio". partitodemocratico.it. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-11. Cyrchwyd 23 Mai 2016.

Dolenni allanol

golygu
  • (Saesneg) Christophe Degryse, Philippe Pochet, Sigfrido Ramirez-Perez, Tribute to Emilio Gabaglio, ETUI, European Trade Union Institute, 29 Tachwedd 2024; cyrchwyd 3 Rhagfyr 2024