Emily Gravett
Darlunydd ac awdur llyfrau plant yw Emily Gravett (ganwyd Gorffennaf 1972),[1] sydd wedi ennill nifer o wobrau.
Emily Gravett | |
---|---|
Ganwyd | 1972 Brighton |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, darlunydd, awdur plant |
Gwobr/au | Medal Kate Greenaway, Medal Kate Greenaway |
Gwefan | https://www.emilygravett.com |
Bywgraffiad
golyguBu'n daith galed i Gravett ddod yn ddarlunwraig ac yn awdures llwyddiannus. Ganwyd ym Mrighton, ac ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, fe aeth Gravett i deithio gyda'i chariad am wyth mlynedd, tra'n byw ar fws. Roedd yn amhosibl i'r ddau ganfod swydd ac yntau heb gyfeiriad parhaol ac roedd pobl yn eu barnu yn ôl eu golwg. Disgynodd Gravett yn feichiog yn ei hugeiniau cynnar, a phan anwyd ei mab dywedodd y meddygon wrthi fod y plentyn wedi anadlu meconiwm, a achosodd iddo grio'n ddi-baid. Yr unig peth a allodd Gravett ei wneud i'w atal oedd i ddarllen iddo.[2]
Fe ymgeisiodd Gravett i fynd ar gwrs celf ym Mhrifysgol Brighton, ond gan ei bod wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau, roeddent yn anfon y ffurflen UCAS yn ôl ati heb ei chysidro. Ond roedd hi'n benderfynnol, ac yn y diwedd fe gynchyrchodd gofnod darluniedig ac ysgrifenedig er mwyn perswadio'r tiwtoriad i adael hi ar y cwrs.[2]
Yn 2004, enillodd Wobr Macmillan am ddarlunio'r llyfr Wolves, enillodd y llyfr Wobr Efydd Llyfrau Plant Nestle, Gwobr Wow y Cymdeithas Llythrennedd Cenedlaethol a Medal Kate Greenaway yn 2005.[3] Yn dilyn hynnu, cafodd ei chomisiynnu i ddarlunio deunydd ar gyfer hybu Diwrnod y Llyfr 2007.
Enillodd Fedal Kate Greenaway unwaith eto yn 2008, ar gyfer y llyfr Little Mouse's Big Book of Fears.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Wolves (2005)
- Orange Pear Apple Bear (2006)
- Meerkat Mail (2006)
- Monkey and Me (2007)
- Little Mouse's Big Book of Fears (2007)
- The Odd Egg (2008)
- Spells
Gwobrau a nomineiddiadau
golygu- 2005 Wolves won the Kate Greenaway Medal[5]
- 2005 Wolves won the Nestlé Children's Book Prize Bronze Award[6]
- 2006 Orange Pear Apple Bear shortlisted for the Booktrust Early Years Pre-School Award[7]
- 2007 Monkey and Me won the Booktrust Early Years Best Emerging Illustrator Award[7]
- 2007 Little Mouse's Big Book of Fears won the Nestlé Children's Book Prize Bronze Award[6]
- 2007 Orange Pear Apple Bear shortlisted for the Kate Greenaway Medal[5]
- 2007 Wolves shortlisted for the Hampshire Illustrated Book Award
- 2007 Meerkat Mail longlisted for the Kate Greenaway Medal[5]
- 2008 Little Mouse's Big Book of Fears won the Kate Greenaway Medal[5]
- 2008 Monkey and Me shortlisted for the the Kate Greenaway Medal[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Emily Gravett. Macmillan.
- ↑ 2.0 2.1 Author of the month: Emily Gravett. The Guardian (27 Chwefror 2006).
- ↑ 25 authors of the future. Waterstones (2007).
- ↑ With thanks to my daughter's pet rats.... The Guardian (28 Mehefin 2008).
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 The CILIP Carnegie Medal & Kate Greenaway Children's Book Awards
- ↑ 6.0 6.1 Nestlé Children's Book Prize
- ↑ 7.0 7.1 Booktrust Early Years Awards