Emily Jane Pfeiffer
Bardd a dyngarwraig o Gymru oedd Emily Jane Pfeiffer (26 Tachwedd 1827 – 23 Ionawr 1890).[1] Roedd hi'n cefnogi'r ymgyrch dros y bleidlais i fenywod ac addysg uwch i fenywod, ynghyd â chynhyrchu cerddi ffeministaidd.[2]
Emily Jane Pfeiffer | |
---|---|
Ganwyd | 26 Tachwedd 1827 Sir Drefaldwyn |
Bu farw | 23 Ionawr 1890 Wandsworth |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Blynyddoedd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Emily Jane Davis Sir Drefaldwyn, 26 Tachwedd 1827.[3] Treuliodd ei phlentyndod yn y wlad yn Swydd Rydychen, Lloegr. Datblygodd natur ei dychymyg, ynghyd â'r elfen dyngarol sy'n amlwg yn ei gwaith. Dylanwad ei thad oedd ei thueddiadau creadigol, a oedd yn ddyn dawnus iawn.
Ar ôl cwymp ariannol banc ei thaid in 1831, nid oedd gan deulu Pfeiffer ddigon o arian i'w hanfon i'r ysgol, ond anogodd ei thad, Thomas Richard Davis, hi i baentio ac ysgrifennu cerdd. Yn 1842, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, The holly branch, an album for 1843.
Gyrfa
golyguYn 1850, priododd Jurgen Edward Pfeiffer, a oedd yn werthwr te.[4] Cyn ei phriodas, cwympodd Emily i gyfnod o lethdod corfforol, a oedd â pherygl o fod yn barhaol, ac fe barodd yn rhannol am ddeng mlynedd ar ôl hynny. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd pob math o ymdrech o'r ymenydd, gan gynnwys darllen, wedi'i wahardd. Pan y daeth i iechyd - diolch i ofal ei gŵr, roedd yn amlwg bod y cyfnod hir hwn o wella wedi cynorthwyo yn natblygu ei phwerau.[5]
Roedd Emily yn awdur toreithiog, a chyhoeddodd nifer o lyfrau a chasgliadau o gerddi. Arweiniodd Gerard's Monument (1878) at Emily i ddod yn adnabyddus ymhlith beirdd Lloegr. Ar ôl hynny, daeth cyfnod o weithgarwch hapus. Daeth hi'n hyrwyddwraig frwdfrydig dros fenywod. Er ei bod hi'n awdur cydwybodol, roedd hi'n ysgrifennu â rhwyddineb. Roedd hi'n ffurfio mwyafrif ei cherddi yn ei meddwl cyn eu rhoi ar bapus; ac yn aml roedd ei cherddi'n cael eu hanfon ar lawysgrif i'r argraffydd, heb fawr ddim cywiriadau, fel yr ysgrifennwyd nhw'n wreiddiol.[5]
Cyfrol o gerddi y cyhoeddodd hi ar ôl Gerard's Monument, yn cynnwys oddeutu 30 o sonedau, a sefydlodd enw iddi fel bardd sonedau ar un adeg. Glan Alark ddaeth nesaf, ac yna Quarterman's Grace. Mewn ychydig llai na blwyddyn, daeth Ender the Aspens, ac yna Songs and Sounds yn fuan wedyn. Yn 1884, cyhoeddodd The Rhyme of the Lady of the Rock. Rhwng y cyfrolau hyn o gerddi, ysgrifennodd Pfeiffer y llyfr on Women and Work, a oedd yn cynnwys amryw o draethodau ar hyn a phynciau eraill, a gyhoeddwyd yn y Contemporary Review, ynghyd â Flying Leaves from East and West. Mae'n bosib mae dyma ei llyfr mwyaf adnabyddus ymhlith darllenwyr America. Ei chyfrol o sonedau, a gyhoeddwyd 1887, ddaeth â'r mwyaf o enwogrwydd iddi.[5]
Roedd Flowers of the night casgliad o sonedau a gyhoeddwyd yn 1889, ar ôl marwolaeth ei gŵr, yn ymdrin â galar ynghyd â safle cyfreithiol anfanteisiol menywod.[6] Roedd ganddynt ddiddordeb dwfn a theimladwy. Roedd y cerddi'n gynnyrch nosweithiau o ddiffyg cwsg, o ganlyniad i or-bryder parhaus.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ H. Marshall & Son 1899, t. 139.
- ↑ Blain 2014, t. 85.
- ↑ Olverson 2009, t. 84.
- ↑ (Saesneg) Hinings, Jessica. "Pfeiffer, Emily Jane". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/22084.
|access-date=
requires|url=
(help)CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)|access-date=
requires|url=
(help) (Subscription or UK public library membership required.) - ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 Moulton 1890, t. 287.
- ↑ "Emily Jane Pfeiffer". Orlando: women's writings in the British Isles from the beginnings to the present. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-27. Cyrchwyd 8 March 2013.
Llyfryddiaeth
golygu- Blain, Virginia (2014). Victorian Women Poets: An Annotated Anthology. Routledge.CS1 maint: ref=harv (link)
- Olverson, T. (2009). Women Writers and the Dark Side of Late-Victorian Hellenism. Palgrave Macmillan UK.CS1 maint: ref=harv (link)