Emma Naomi
Actores a dawnsiwr Seisnig yw Emma Naomi (ganwyd c.1990), sy'n fwyaf adnabyddus am ei rolau yn y gyfres deledu Professor T a Bridgerton .
Emma Naomi | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Astudiodd Emma Naomi yn yr Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn Llundain, gan ennill BA mewn Actio. [1] Mae hi wedi ymddangos ar lwyfan y Bristol Old Vic ac eraill.[2]
Roedd rôl deledu gyntaf Emma Naomi yng nghyfres y BBC, The Trial of Christine Keeler, (2019) lle chwaraeodd rôl fach Ann. Yn 2021 enillodd rôl Alice yn Bridgerton. [3] Ar ôl tair cyfres fel cymeriad blaenllaw yng nghyfres Professor T, mae'n debyg iddi gael ei hysgrifennu mewn golygfa olaf annisgwyl. [4] Dwedodd yr actores ei bod wedi cael sioc pan welodd y sgript. [5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Emma Naomi (BA Acting)". Guildhall School. Cyrchwyd 23 Mai 2024.
- ↑ "Emma Naomi". Bristol Old Vic (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mai 2024.
- ↑ "Spotlight on actress Emma Naomi" (yn en). You (De Affrica). 2 Medi 2021. https://www.pressreader.com/south-africa/you-south-africa/20210902/281642488261271. Adalwyd 23 Mai 2024.
- ↑ "Professor T's Ben Miller reacts to double finale twist: "It's really, really sad"". Radio Times (yn Saesneg). 1 Mai 2024. Cyrchwyd 23 Mai 2024.
- ↑ Leigh, Janet A (2 Mai 2024). "Professor T stars respond to season 3's "emotionally charged" finale cliffhanger". Digital Spy (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mai 2024.