Emmeline Lewis Lloyd
Dringwr mynyddoedd oedd Emmeline Lewis Lloyd (18 Tachwedd 1827 – 22 Medi 1913). Roedd hi'n aelod o'r criw cyntaf a lwyddodd i ddringo Aiguille du Moine yn 1871, dan arweiniad Jean Charlet.
Emmeline Lewis Lloyd | |
---|---|
Ch i dde: y prif dywysydd, Emmeline Lewis-Lloyd, Jean Charlet a Bessie Lewis-Lloyd yn yr Alpau | |
Ganwyd | 18 Tachwedd 1827 Cwm Elan |
Bu farw | 22 Medi 1913 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd mynydd |
Magwraeth
golyguRoedd Lloyd yn enedigol o Nantgwyllt, plasty yng Nghwm Elan a foddwyd wrth greu Cronfa'r Caban Coch.[1] Hi oedd pedwaredd ferch Thomas Lewis-Lloyd, Ustus Heddwch a Siryf Sir Aberteifi yn 1822.[2] roedd hi'n ferch annibynnol ei natur a chadwai dyddyn bychan yn Llandyfaelog Fach, lle magai geffylau mynydd.[1]
Dringo
golyguYn 1870 gorchfygodd Monte Viso[3] - y ferch gyntaf i wneud hynny. Y flwyddyn wedyn dringodd Aiguille du Moine gyda Joseph Simond yn arwain. Gyda chopa 3,412 m o uchder, mae gofyn i'r dringwyr abseilio ar raff i lawr i droed y mynydd.[4] Ymddeolodd o'i chrefft yn 1873; daliodd ei phartner Straton ati i ddringo gyda Jean Charlet[3] gan ei briodi Straton ychydig yn ddiweddarach.
Marwolaeth
golyguBu farw yn Hampstead Hill Gardens, Llundain a dychwelwyd y corff i Lansanffraid Cwmdeuddwr.[3] Ceir cofeb iddi yn yr eglwys - cofeb a symudwyd o'r hen eglwys a foddwyd, Eglwys Nantgwyllt. Dywed y gofeb mai hi oedd yr wythfed ferch i ddringo Mont Blanc.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 LEWIS LLOYD , EMMELINE, Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein, Adalwyd 8 Rhagfyr 2016.
- ↑ Nicholas, Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales, Cyfrol 2; tud. 924
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Hansen, Peter H. (2004). "Straton, (Mary) Isabella Charlet- (1838–1918)". Oxford Dictionary of National Biography. Gwasg Rhydychen.
- ↑ Aiguille du Moine, summitpost.og, adalwyd 6 Ebrill 2014
- ↑ "Llanwrthwl to Cwmdeuddwr Walk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-03. Cyrchwyd 6 Mai 2015.